Datblygiadau Rhaglenni, Cynigion ac Ymgynghoriadau Ysgolion yr 21ain Ganrif
Rhaglen Band B 2019 i 2026
Cam 1
Statws: Ymgynghoriad ar Gau. Yn yr arfaeth i Ymchwiliadau Dŵr Cymru
Cynnig: Ehangu Ysgol bresennol Cae'r Drindod i gynnal 80 o leoedd ychwanegol a darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'n disgyblion mwyaf agored i niwed, a fydd yn gallu diwallu anghenion dysgu, cymdeithasol a meddygol, yn ogystal â chreu cyfleusterau ar gyfer gweithio integredig ar draws Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, a darparu cyfleoedd ar gyfer gofal plant, mannau awyr agored a defnydd cymunedol.
Statws: Ymgynghoriad ar Gau. Cynllunio a ganiatawyd.
Cynnig: Bydd y prosiect yn darparu gofal plant addas i'r diben, Sylfaen Adnoddau Arbennig ag 16 lle a bydd yn cynyddu darpariaeth a chapasiti addysgol yr ysgol o 220 i ysgol gynradd 420 lle gyda meithrinfa a mwy.
Cam 2
Statws: Ymgynghoriad ar Gau. Yn aros am gymeradwyaeth cynllunio.
Cynnig: Creu canolfan ragoriaeth ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed o bob rhan o Gaerffili, a fydd â chyfleoedd dysgu, darpariaeth chwaraeon dan do ac awyr agored o ansawdd uchel yn ogystal â mynediad at gymorth o'r radd flaenaf. Bydd y Ganolfan yn lleihau'r angen i roi cymorth i ddysgwyr ar gontract allanol i ddarparwyr preifat a bydd yn galluogi'r gymuned i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.
Statws: Ymgynghoriad ar Gau. Yn aros am gymeradwyaeth cynllunio.
Cynnig: Creu Ysgol Gynradd Plas-y-felin newydd o'r radd flaenaf ar dir y safle presennol i gynnwys defnydd cymunedol o'r cyfleuster.
Statws: Ymgynghoriad ar Gau. Yn aros am gymeradwyaeth cynllunio.
Cynnig: Cyfuno Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon er mwyn creu Ysgol Gynradd newydd i gynnwys defnydd cymunedol o'r cyfleuster.
Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond cynigion ydynt ar hyn o bryd a bydd yr ymgynghoriad â phob rhanddeiliad allweddol yn rhan hanfodol o'r broses, wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Ymgyngoriad
Mae'r broses ymgynghori yn dilyn gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (Cymru) 2013 fel y nodir yn fanwl yng Nghod Trefniadaeth ysgolion 2018.
Mae Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn rhagnodi'r unigolion/grwpiau hynny a ystyrir yn ymgynghorwyr allweddol yn y broses ymgyghori.
Cynigir pob cyfle i bobl ddweud eu dweud am y cynigion ac ystyrir y safbwyntiau a dderbynnir yn yr adroddiadau i Weithrediaeth y Cyngor, a fydd yn gwneud penderfyniadau'n seiliedig arnynt.
Barn iant a phobl infanc
Mae gan bobl ifanc hawl i fynegi eu barn ar bob mater sy'n effeithio arnynt a dylid sicrhau bod pwys priodol yn cael ei roi ar eu barn yn unol â'u hoedran a'u haeddfedrwydd. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gallai pobl ifanc wella'r broses o wneud penderfyniadau yn ogystal â rhannu safbwyntiau a chymryd rhan fel dinasyddion a hwyluswyr newid.
Mae'r Cyngor wedi cydnabod bod rhoi llais i bobl ifanc yn golygu eu cynnwys fel cyfranogwyr yn y broses o ddatblygu, cyflawni, rheoli a gwella eu profiadau addysgol ac fel myfyrwyr a bod angen iddynt fod wrth wraidd y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso.
Bydd Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghaerffili yn sicrhau y caiff trefniadau addas eu gwneud i ymgynghori â phobl ifanc a'u cynnwys yn y broses, yn ogystal ag ar ôl i'r gwaith ddod i ben, wrth gyflwyno unrhyw gynnig.