Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
Mae Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol fawr, hirdymor. Mae’n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a’i nod yw creu cenhedlaeth o Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae'r rhaglen hefyd yn cyfrannu at Fframwaith Llesiant a Llunio Lleoedd y Cyngor o ran buddsoddi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.