Gwneud cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio - Gasanaethau ychwanegol
Bydd y gwasanaethau ychwanegol ond yn cael eu darparu yn ychwanegol i'r gwasanaeth statudol, hynny yw ni fydd yn bosibl cael y gwasanaethau ychwanegol yn unig.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys:
- ymgynghori ag unrhyw ymgyngoreion statudol neu unrhyw ymgyngoreion eraill
- unrhyw gyfarfodydd
- ymweliad â'r safle gan y swyddog achos
- cyngor ar yr wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y cais yn ddilys wrth ei gyflwyno.
Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen am gyngor cyn gwneud cais cynllunio, gan sicrhau eich bod chi'n llenwi adran ffioedd y cais am wasanaeth ychwanegol.
O ran y gwasanaeth hwn, bydd y tâl ychwanegol isod yn cael ei ychwanegu at y ffi berthnasol.
Gwasanaeth
|
Ffi (Bydd TAW yn cael ei godi ar yr elfen hon o'r ffi)
|
Ymgynghori ag ymgyngoreion statudol ac anstatudol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
|
35% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig
|
Cyfarfodydd â swyddogion ar y safle neu mewn swyddfa
|
Pob cyfarfod yn 35% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig
|
Ymweliad â'r safle gan y swyddog achos
|
35% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig (os yw'r cyfarfod â'r swyddog achos yn cael ei gynnal ar y safle, ni fydd y ffi hon yn cael ei chodi ar wahân)
|
Cyngor ar yr wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y cais yn ddilys wrth ei gyflwyno
|
35% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig
|
Pa mor hir bydd yn ei gymryd?
Byddwn ni'n ceisio ymateb o fewn 21 diwrnod gwaith i geisiadau dilys am wasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio statudol.
O ran y gwasanaeth ychwanegol, byddwn ni'n ymateb o fewn 42 diwrnod gwaith.
Os yw'ch cynnig chi'n fwy cymhleth, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os bydd yn cymryd mwy o amser i ni ymateb.
Gwasanaethau eraill rydyn ni'n eu cynnig
Gwasanaeth
|
Ffi
|
Darparu hanes cynllunio'r safle:
|
Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)
|
£63.95 (gan gynnwys TAW)
|
Datblygiadau eraill
|
£159.86 (gan gynnwys TAW)
|
Cyngor ynglŷn ag a yw hawliau datblygu a ganiateir y datblygiad penodol wedi cael eu dileu gan amod
|
£63.95 (gan gynnwys TAW)
|
Cyngor ynglŷn ag a yw'r amodau wedi cael eu cyflawni:
|
Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)
|
£63.95 (gan gynnwys TAW)
|
Datblygiadau eraill
|
£159.86 (gan gynnwys TAW)
|
Gwneud ymholiad ynglŷn ag a oes angen caniatâd cynllunio ar y datblygiad neu a yw'r datblygiad yn gyfreithlon
|
Os ydych chi'n ansicr a fyddai angen caniatâd ar eich prosiect chi neu a yw'n gyfreithlon, rydyn ni'n argymell eich bod chi’n cyflwyno cais am dystysgrif cyfreithlondeb
|
Gwneud ymholiad ynglŷn ag a yw busnes gwarchod plant yn dderbyniol mewn eiddo preswyl
|
Bydd cyngor anffurfiol ar lafar am ddim yn cael ei roi yn seiliedig ar yr wybodaeth sy'n cael ei gyflwyno fel rhan o'r Holiadur Gwarchod Plant
|
Sylwch: Nid oes modd ad-dalu unrhyw ffioedd, ac maen nhw'n ychwanegol at ffioedd ceisiadau cynllunio arferol. Bydd tâl unigol yn cael ei godi am geisiadau lluosog. Os na fydd y ffi yn cael ei thalu o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl cael nodyn atgoffa, ni fydd ymateb yn cael ei roi.
Anfonwch eich ymholiadau chi gydag unrhyw ddogfennau a ffioedd perthnasol drwy'r post i:
Pennaeth Adfywio a Chynllunio
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
CF82 7PG
neu e-bostio Cynllunio@caerffili.gov.uk.
Gwasanaethau Ychwanegol ar gyfer Cadwraeth
Ar gyfer adeilad rhestredig, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen sy'n benodol at gadwraeth - ffurflen am gyngor cyn-gynllunio cadwraeth benodol – Gwasanaethau cadwraeth (SYLWCH BYDD HON AR-LEIN) - gan sicrhau eich bod chi'n cwblhau'r cais am Wasanaeth Ychwanegol.
Caniatâd adeilad rhestredig
Gwasanaeth
|
Ffi
|
Deiliaid tai
|
£132.30 (gan gynnwys TAW)
|
Arwynebedd llawr < 999m2
|
£275.63 (gan gynnwys TAW)
|
Arwynebedd llawr 1000m2 – 1999m2
|
£661.50 (gan gynnwys TAW)
|
Arwynebedd llawr > 1999m2
|
£1102.50 (gan gynnwys TAW)
|
Byddai tâl ychwanegol, sy'n cyfateb i 35% o'r ffi safonol, yn cael ei godi pe bai cyfarfod â swyddog ar y safle neu yn y swyddfa â TAW.
|
Sylwch: Nid oes modd ad-dalu unrhyw ffioedd, ac maen nhw'n ychwanegol at ffioedd ceisiadau cynllunio arferol. Bydd tâl unigol yn cael ei godi am geisiadau lluosog. Os na fydd y ffi yn cael ei thalu o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl cael nodyn atgoffa, ni fydd ymateb yn cael ei roi.
Sylwch: Os ydych chi'n cyflawni cynllun sy'n gofyn am enwi strydoedd, ceisiwch seilio unrhyw enwau ar enwau hanesyddol yr ardal lle mae'r gwaith datblygu'n digwydd. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd ar y we sydd â'r nod o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru, a thynnu sylw at eu pwysigrwydd nhw.