Archebu eitem ar gadw

Os hoffech chi fenthyg llyfr, llyfr llafar neu DVD sydd ar gael mewn llyfrgell gwahanol i'r un rydych chi'n defnyddio fel arfer, neu mae'r llyfr ar fenthyg i rywun arall, mae modd neilltuo eitem i'w gasglu o'ch llyfrgell lleol pan fydd ar gael.

Sut mae’n gweithio

  • Chwiliwch ar gatalog y llyfrgell am yr eitem rydych chi am fenthyg.
  • Cliciwch ar yr eitemau am ragor o wybodaeth ac i wirio argaeledd.
  • Unwaith rydych chi'n dod o hyd iddo, cliciwch ar y fotwm 'Cadw Llyfr' a mewnbynnu rhif eich cerdyn llyfrgell a PIN (4 digid). Os nad ydych chi'n gwybod eich PIN, mae modd clicio ar y botwm 'Wedi anghofio rhif PIN' neu ofyn y tro nesaf rydych chi'n ymweld â'r llyfrgell.
  • Dewiswch pa lyfrgell hoffech chi gasglu'ch eitem neilltuedig ohono
  • Pan fydd eich eitem ar gael i'w gasglu, byddwn yn e-bostio chi ac os nad oes gennym ni eich cyfeiriad e-bost byddwn yn ffonio chi. Mae hefyd modd cadw eitemau trwy e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb mewn unrhyw un o'n llyfrgelloedd cangen agored.
Cysylltwch â ni