Ymunwch â'r llyfrgell

Er mwyn ymuno â'r llyfrgell mae angen i chi geisio am Gerdyn Smart. Mae'r cerdyn hwn yn darparu mynediad cyflym a hawdd i gyfleusterau yn eich canolfan hamdden a llyfrgell leol.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am aelodaeth

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, byddwch yn derbyn rhif cyfeirnod dros dro hyd nes eich ymweliad cyntaf i naill ai eich llyfrgell neu eich canolfan hamdden leol i gwblhau'r broses gwneud cais a dangos tystiolaeth eich hunaniaeth.

Mae'ch cerdyn hefyd yn caniatâu mynediad ichi i'n gwasanaethau llyfrgell ar-lein.  I alluogi'r weithred hwn mi fydd yn rhiad ichi wybod eich PIN 4 digid sydd wedi ei gysylltu â'ch cyfrif llyrgell.  I gael gwybod mwy, holwch aelod o staff.

Profi eich hunaniaeth

Cyn i ni allu anfon eich Cerdyn Smart atoch bydd angen i chi ddangos dau fath o adnabyddiaeth gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arnynt, er enghraifft:

  • Trwydded yrru
  • Bil cyfleustod
  • Llyfr budd-daliadau
  • Datganiad Cerdyn Credyd/Banc

Bydd hefyd angen i chi ddangos un math o adnabyddiaeth gyda'ch llofnod arno, er enghraifft:

  • Trwydded yrru
  • Cerdyn budd-daliadau
  • Pasbort
  • Cerdyn credyd/debyd

Os ydych o dan 16 oed bydd angen i'ch rhiant neu ofalydd ddangos un math o adnabyddiaeth a llofnodi'r ffurflen gais. Gall fabanod ymuno'r llyfrgell o'u genedigaeth - yr unig beth sydd angen arnom yw tystiolaeth hunaniaeth rhiant neu ofalydd.

Pobl nad ydynt yn breswylwyr

Os ydych yn ymweld â'r ardal neu ar wyliau neu'n galw heibio, gallwch ymuno am dair mis fel ymwelydd.

Cardiau coll

Os ydych yn colli eich cerdyn llyfrgell, fe ddylech roi gwybod i'ch llyfrgell leol cyn gynted â phosib. Byddwn yn canslo'ch cerdyn er mwyn atal defnydd gan unrhyw un arall. Bydd ffi o £2 yn cael ei godi er mwyn i chi dderbyn cerdyn newydd neu os byddwch eisiau newid yr enw neu’r ffotograff. Bydd angen i chi fynychu mewn person yn eich llyfrgell leol er mwyn gwneud newidiadau/derbyn cerdyn newydd.

Cysylltwch â ni