Dydd Gwener Digidol

Mae Dydd Gwener Digidol ar agor i bawb 16+ oed. Os oes angen help arnoch gyda Skype, trefnu cyfrif e-bost neu chwilio am swydd ar-lein, gofynnwch i ni.  Fodd bynnag, ni allwn drwsio eich offer i chi.

Mae’r amser y byddwn yn ei dreulio â phobl yn dibynnu ar ba mor brysur yw’r sesiynau ond awgrymwn i bobl ddewis rhai pethau yr hoffent eu dysgu, fel y gall pawb ddysgu’r hyn sydd angen iddynt ei wybod.  Rydym bob amser wrth law os byddwch mewn twll.

Lleoliadau

Mae sesiynau mewn amryw lyfrgelloedd ledled y fwrdeistref sirol ac ar amseroedd gwahanol. Ewch i wefan Dewch Ar-lein Caerffili am fanylion.