Nwy’n gollwng
Os ydych yn denant y cyngor ac yn meddwl bod nwy’n gollwng yn eich cartref:
-
Ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999. Byddant yn rhoi cyngor brys i chi ac yn trefnu i beiriannydd ymweld â’ch cartref (bydd hyn o fewn 30 munud fel arfer). Os bydd nwy’n gollwng o’r pibellwaith rhwng y prif gyflenwad nwy a’r mesurydd nwy, bydd Wales and West Utilities yn gwneud y gwaith atgyweirio’n syth. Os bydd nwy’n gollwng o’r pibellwaith rhwng eich mesurydd a’ch offer nwy, bydd y peiriannydd yn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ac yn rhoi hysbysiad rhybudd i ni.
-
Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni bod nwy’n gollwng. Cysylltwch â’ch swyddfa dai leol neu, y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 01443 875500. Bydd ein contractwyr gwresogi yn galw yn eich cartref o fewn 2 awr i atgyweirio’r diffyg ac yn adfer eich gwres a’ch dŵr poeth.
Cyngor diogelwch
- Diffoddwch y cyflenwad nwy wrth y falf rheoli mewn argyfwng os yw’n bosibl (dylai’r falf fod wrth ymyl y mesurydd nwy; bydd y falf wedi’i diffodd pan gaiff ei throi o safle fertigol i safle llorweddol)
- Peidiwch â gweithredu unrhyw switshys neu offer trydanol na defnyddio cloch y drws
- Dylech awyru’r ystafelloedd yr effeithiwyd arnynt gan arogl nwy, a phob ystafell os oes angen, drwy agor y ffenestri a’r drws ffrynt/drws cefn
- Peidiwch â defnyddio matsis na fflamau agored
- Peidiwch ag ysmygu
- Gadewch yr eiddo a pheidiwch â dychwelyd tan fod peiriannydd yn dweud wrthych ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny