Benthyciadau Gydol Oes

Mae benthyciadau cyfandaliad ar gael i gefnogi perchnogion tai sy'n methu'r meini prawf ar gyfer Benthyciadau Perchen-feddianwyr.

Pwy all wneud cais?

Efallai y bydd y benthyciadau ar gael i berchnogion tai ym mwrdeistref sirol Caerffili sydd wedi methu'r meini prawf ar gyfer Benthyciadau Perchen-feddianwyr  ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol eraill.

Rhoddir y benthyciadau ar gyfer gwelliannau i wneud cartrefi yn saff, yn gynnes ac yn ddiogel ac i fynd i'r afael â pheryglon a nodwyd yn y system statws iechyd a diogelwch tai.

Faint allaf fenthyg?

Mae benthyciadau ar gael hyd at £25,000.  

Mae 'Benthyciad Gydol Oes' yn fenthyciad cyfandaliad lle caiff unrhyw log a all fod yn daladwy ei chyflwyno dros y tymor llawn.  Mae’r benthyciad wedyn yn ad-daladwy wrth werthiant neu waredu’r eiddo.

Sut i wneud cais

Oherwydd materion yn ymwneud â'r pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio'r cartref. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y system yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl.

Fodd bynnag, mae benthyciadau di-log ar gael i berchen-feddiannwyr a landlordiaid er mwyn gwneud atgyweiriadau i'ch eiddo. Os hoffech chi ymholi am y rhain, ffoniwch 01443 811378 neu ddilyn y ddolen hon i gael y ffurflen ymholiadau ar-lein

Gwneud cais am benthyciad gwella cartrefi >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym! 

Cysylltwch â ni