Benthyciadau i Landlordiaid

Mae'r rhain yn fenthyciadau di-log sydd ar gael i landlordiaid i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd neu ar gyfer gwaith cymwys i gartrefi sydd wedi'u rhentu'n breifat. 

Pwy all wneud cais?

Gall landlordiaid preifat gydag eiddo ym mwrdeistref sirol Caerffili wneud cais.

Faint allaf fenthyg?

Mae benthyciadau ar gael o £1,000 i £35,000 yr eiddo, hyd at 10 eiddo.

Cyfnodau benthyciadau mwyaf:

  • 2 flynedd os y bwriad yw gwerthu’r eiddo yn dilyn y gwaith
  • 5 mlynedd os y bwriad yw rhentu'r eiddo yn dilyn y gwaith
  • 10 mlynedd os yw'r bwriad i rentu'r eiddo ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol (LHA) yn dilyn y gwaith, gydag ymrwymiad 10 mlynedd i hawliau enwebu tenantiaid awdurdod lleol

Sut i wneud cais

Oherwydd materion yn ymwneud â'r pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio'r cartref. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y system yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl.

Fodd bynnag, mae benthyciadau di-log ar gael i berchen-feddiannwyr a landlordiaid er mwyn gwneud atgyweiriadau i'ch eiddo. Os hoffech chi ymholi am y rhain, ffoniwch 01443 811378 neu ddilyn y ddolen hon i gael y ffurflen ymholiadau ar-lein

Gwneud cais am benthyciad gwella cartrefi >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym! 

Cysylltwch â ni