Cyllid Hyblygrwydd ECO

System gwres canolog, inswleiddio atig ac inswleiddio waliau allanol.

Menter effeithlonrwydd ynni a arweinir gan y Llywodraeth yw Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni (ECO), er mwyn helpu lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Bwriedir i'r fenter hon roi arweiniad i'r trigolion mwyaf agored i niwed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili  a'u helpu i fanteisio ar rwymedigaeth gyllido ECO.

Mae’r cyllid Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) blaenorol bellach wedi dod i ben, ond rydyn ni’n gweithio i gynnig mynediad tecach, mwy cynhwysol i grantiau ynni o dan y fenter Newydd, ECO4 Flex.
 
Byddwn ni’n rhoi gwybod i drigolion pan fydd rhagor o wybodaeth am gyllid ar gael.
 

Cysylltwch â ni