Grant cyfleusterau i’r anabl
Os ydych yn berchen-feddiannydd neu’n denant sector preifat a’ch bod chi, neu rywun sy’n byw yn eich cartref, yn anabl, mae’n bosibl y gallech fod yn gymwys i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Mae’r grant hwn yn helpu i dalu costau gwaith i osod addasiadau a chyfleusterau i helpu’r person anabl i barhau i fyw yno.
Er bod grantiau ar gyfer gwaith amrywiol yn orfodol, ni ddylech gymryd yn ganiataol y byddech yn gymwys ar gyfer grant yn awtomatig. Rhoddir grantiau ar gyfer rhai mathau o waith yn ôl disgresiwn, ac mae oedolion sy’n gwneud cais yn destun prawf modd.
Grantiau gorfodol
Mae’r grantiau hyn ar gael ar gyfer y canlynol:
- Galluogi mynediad haws i gartref y person anabl ac ystafelloedd a cyfleusterau yn y cartref, megis rampiau, lifftiau grisiau a chyfleusterau ystafell ymolchi.
- Gwneud y cartref yn fwy diogel i’r person anabl
- Darparu neu wella systemau gwresogi i ddiwallu anghenion person anabl
- Addasu’r dulliau rheoli gwres neu oleuadau i’w gwneud yn haws i’w defnyddio
Wrth ystyried cais am gymorth, rhaid i’n Tîm Addasiadau fod yn fodlon bod y gwaith arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol i ddiwallu anghenion y person anabl, ac yn rhesymol ac yn ymarferol o ystyried oedran, cyflwr a lleoliad yr eiddo.
Grantiau yn ôl disgresiwn
Gallwn roi’r grantiau hyn ar gyfer gwaith i gynorthwyo lles, cyflogaeth a llety pobl anabl.
Gall gwaith o’r fath gynnwys y canlynol:
- Addasu ystafell neu ddarparu ystafell i alluogi person anabl sydd methu gadael ei gartref i weithio gartref
- Cymorth ariannol tuag at adleoli person anabl i eiddo gwahanol, o dan amgylchiadau penodol.
Pwy all wneud cais?
Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gael i berchen-feddianwyr a’r rhan fwyaf o denantiaid. Gall deiliad y tŷ wneud cais mewn achosion lle nad y person anabl yw’r perchennog neu’r tenant (er enghraifft, plentyn neu berthynas arall).
I fod yn gymwys, rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwaith arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol i ddiwallu anghenion y person anabl, ac yn rhesymol ac yn ymarferol o ystyried oedran, cyflwr a lleoliad yr eiddo.
Faint o grant fyddaf yn ei gael?
Mae’r holl grantiau i oedolion yn destun prawf modd i bennu faint y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ei gyfrannu tuag at gost y gwaith. Bydd y person anabl (a’r gŵr/gwraig/partner) yn destun prawf modd, ond pan fo’r person anabl yn iau na 19 oed ac yn ddibynnydd, nid oes prawf modd ar gyfer grant gorfodol.
Mae’r prawf modd yn ystyried incwm a chynilion ond nid alldaliadau.
Dyfernir grant i dalu am gost y gwaith, ar ben cyfraniad yr ymgeisydd sy’n destun prawf modd. Rhoddir uchafswm o £36,000 ar gyfer grantiau gorfodol a grantiau adleoli, ac uchafswm o £10,000 ar gyfer y rhan fwyaf o grantiau yn ôl disgresiwn.
Fel arfer, nid yw’n ofynnol i ymgeiswyr sy’n derbyn budd-daliadau sy’n destun prawf modd neu ymgeiswyr sy’n iau na 19 oed ac sy’n ddibynyddion gyfrannu tuag at gost gwaith.
Sut i wneud cais
Oherwydd y pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio cartrefi ac ymholiadau newydd ar gyfer yr holl gynhyrchion benthyciadau tai o 22 Hydref 2020. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y systemau'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl, yn y lle cyntaf bydd angen i ni asesu eich anghenion. Therapydd Galwedigaethol a gyflogir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn cyflawni’r asesiad hwn. Ar ôl cynnal yr asesiad hwn, bydd yn argymell unrhyw waith mae o’r farn sy’n hanfodol o ran diwallu anghenion y person anabl.
- I ofyn am asesiad o anghenion oedolyn ffoniwch 0800 100 2500
- I ofyn am asesiad o anghenion plentyn ffoniwch 0808 100 1727
Angen help i wneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl?
Bydd ein Gwasanaeth Asiantaeth mewnol yn gallu eich helpu drwy gydol y broses. Ewch i’r dudalen Asiantaeth Gwella’r Cartref am ragor o fanylion.