Bandiau a thaliadau treth y cyngor
Mae swm treth y cyngor yr ydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar werth eich eiddo. Mae eich eiddo wedi’i brisio a’i roi yn un o naw band treth y cyngor gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n rhan o Gyllid y Wlad.
Mae’r band prisio yn seiliedig ar werth yr eiddo ar 1 Ebrill 2003, nid ei werth cyfredol. Mae’r bandiau prisio yng Nghymru fel a ganlyn:
Band
|
Gwerth y tŷ
|
A
|
Hyd at £44,000
|
B
|
£44,001 i £65,000
|
C
|
£65,001 i £91,000
|
D
|
£91,001 i £123,000
|
E
|
£123,001 i £162,000
|
F
|
£162,001 i £223,000
|
G
|
£223,001 i £324,000
|
H
|
£324,001 i £424,000
|
I
|
£424,001 ac uwch
|
Ddim yn siŵr pa fand mae’ch eiddo chi'n perthyn iddo?
Edrychwch ar restr brisio treth y cyngor
Ar ôl i chi ganfod pa fand mae eich eiddo’n perthyn iddo, bydd y swm treth y cyngor yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar le rydych yn byw yn y fwrdeistref sirol. Cliciwch ar y ddolen isod:
Taliadau treth gyngor 2023/24
Sut caiff fy mil treth y cyngor ei gyfrifo?
Mae eich bil treth y cyngor yn cynnwys y tair elfen ganlynol:
- Cost Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cost Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Cost y Cyngor Cymuned (os oes un yn bodoli yn yr ardal)