Hawliau plant

Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc sy’n Derbyn Gofal gennym, mae gennych yr hawliau canlynol:

Hawl i ofal o safon uchel

Dylech fyw mewn lle sy’n lân, sy’n gyfforddus ac yn ddi-fwg, lle byddwch yn derbyn gofal, anogaeth a chanmoliaeth. Dylai popeth sydd ei angen arnoch i wireddu eich potensial llawn fod ar gael i chi.

Dylai unrhyw reolau neu benderfyniadau sy’n ymwneud â chi gael eu hegluro i chi mewn ffordd y gallwch ei deall a dylai fod hawl gennych i ofyn cwestiynau am y penderfyniadau a’r rheolau hyn.

Yr hawl i fod yn ddiogel

Dylai’r oedolion sy’n gofalu amdanoch chi ac sy’n gweithio gyda chi, wneud yn siŵr nad ydych yn derbyn niwed, braw neu fygythiad.

Drwy wrando arnoch chi a gwneud i chi deimlo’n gyfforddus, dylech fod yn gallu siarad gyda nhw am unrhyw broblemau neu bryderon sydd gennych.

Yr hawl i gyswllt â’r bobl sy’n bwysig i chi

Mae hawl gennych i ofyn am gael gweld neu siarad â’r bobl sy’n bwysig i chi, fel ffrindiau neu deulu. ‘Cyswllt’ yw’r gair am hyn.

Yr hawl i gael eich trin a’ch gwerthfawrogi fel unigolyn

Dylech gael eich cydnabod, eich parchu a dylid dathlu’r ffaith eich bod yn unigryw gyda’ch cymeriad, personoliaeth, cefndir, profiadau, hoffterau a chas bethau chi eich hun.

Ni ddylech gael eich barnu am y ffordd rydych yn edrych, yr hyn rydych yn ei wisgo, y ffordd rydych yn ymddwyn, pa iaith rydych yn dymuno’i siarad, o ble rydych yn dod a’r hyn rydych yn credu ynddo neu eich barn a’ch syniadau. Dylech gael eich trin yn gyfartal i eraill ble rydych yn byw, yn eich ysgol ac yn y gymuned.

Yr hawl i fod yn iach

Dylai’r bobl sy’n byw gyda chi ac sy’n gofalu amdanoch chi wneud yn siŵr eu bod yn:

  • eich annog i fwyta deiet iach a chytbwys
  • rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, ymarfer corff a chwarae yn rheolaidd
  • hyrwyddo amser gwely rheolaidd a rhesymol fel eich bod yn cael digon o gwsg a gorffwys
  • gofalu amdanoch pan fyddwch yn teimlo’n sâl
  • gwneud apwyntiadau iechyd i chi pan fyddwch eu hangen ac yn eich cefnogi i fynd i’r apwyntiadau hynny
  • rhoi gwybodaeth iechyd i chi sy’n berthnasol i’ch oedran a’ch sefyllfa

Yr hawl i addysg sy’n addas i chi a’ch anghenion

Dylech chi allu dysgu mewn amgylchedd sy’n eich annog chi ac yn eich helpu chi i ddatblygu a llwyddo hyd eithaf eich gallu.

Os ydych yn yr ysgol, dylai fod gennych athro penodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae’r athro hwn yno i’ch cefnogi chi gydag unrhyw broblemau y gallech fod yn eu hwynebu yn yr ysgol. Os nad ydych wedi cael gwybod pwy yw’ch athro penodedig, gallwch ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol holi ar eich rhan.

Yr hawl i wybodaeth amdanoch chi

Mae llawr o wybodaeth yn cael ei chofnodi neu ei rhannu amdanoch chi, fel pam rydych yn derbyn gofal, eich cefndir, eich cynlluniau ac adroddiadau amdanoch.

Gallwch ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol neu eich gofalydd/gofalyddion am gopi o unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu amdanoch chi, gan gynnwys cofnodion (nodiadau) cyfarfodydd.

Dylai’ch gweithiwr cymdeithasol egluro unrhyw wybodaeth rydych yn gofyn amdani, ac unrhyw gwestiynau fydd gennych am y wybodaeth hon, mewn ffordd rydych yn gallu ei deall.

Yr hawl i wasanaethau 16+ 

Mae’r gwasanaeth yn rhan o Wasanaethau a Diogelu Plant a Phobl Ifanc Caerffili. Mae’n wasanaeth sy’n helpu, cefnogi, cynghori ac yn sefydlu cyfeillgarwch gyda phobl ifanc sydd mewn gofal neu sy’n gadael y system gofal. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 21 oed ac weithiau hyd at 24 os yw’r person ifanc mewn addysg bellach neu addysg uwch.

Yr hawl i eiriolaeth

Os nad ydych yn teimlo bod unrhyw un yn gwrando arnoch chi neu os nad ydych yn cael cyfle i ddweud sut rydych yn teimlo, mae hawl gennych i gael Eiriolwr Annibynnol. Bydd Eiriolwr Annibynnol yn gwrando’n ofalus arnoch chi, a gyda’ch caniatâd chi, bydd yn siarad ar eich rhan er mwyn sicrhau bod pobl yn clywed am unrhyw broblemau sydd gennych a’ch barn ar bethau. Fyddan nhw byth yn ochri gyda’r oedolion eraill.

I ofyn am eiriolwr, cysylltwch â’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar 0808 808 1001 neu e-bost help@nyas.net.

Yr hawl i leisio’ch barn

Pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud amdanoch chi, dylai unrhyw un sy’n gweithio gyda chi wrando ar eich barn, eich dymuniadau a’ch teimladau. Dylech chi fod yn cael cyfle i leisio’ch barn. Fyddwch chi ddim wastad yn cael yr hyn fyddwch ei eisiau ond dylai pobl ystyried eich barn, eich dymuniadau a’ch teimladau pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniadau.

 Yr hawl i gwyno

Os nad ydych yn hapus gyda rhywbeth neu os ydych yn teimlo bod rhywbeth yn annheg, mae gennych hawl i gwyno. Gallwch wneud cwyn am unrhyw oedolyn sy’n ymwneud â’ch gofal neu sy’n gweithio gyda chi. Cofiwch, gall eiriolwr eich helpu chi i wneud cwyn, neu eich helpu chi i gyflwyno’ch safbwynt.

Dylai’ch gweithiwr cymdeithasol a’r oedolion eraill sy’n gweithio gyda chi, wneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gwyno a dylent roi gwybodaeth ysgrifenedig i chi am sut i gwyno. Ni ddylai neb eich atal rhag gwneud cwyn neu ffeindio allan sut i wneud cwyn. Os nad ydych yn gwybod neu os na allwch gofio sut i wneud cwyn, gallwch ofyn i unrhyw oedolyn sy’n gweithio gyda chi roi’r wybodaeth yma i chi ar unrhyw bwynt.

I wneud cwyn, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Mae’r tîm hefyd yn hapus i dderbyn sylwadau cadarnhaol am y bobl sy’n gweithio gyda chi. Felly os ydy rhywun wedi gwneud newid cadarnhaol i’ch bywyd, rhowch wybod i’r tîm!

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau, lawrlwythwch y llyfryn A Basic Guide to Being Looked After booklet.

Os nad ydych yn deall unrhyw wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni er mwyn i ni eu hateb.Gallwch hefyd ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw’ch gweithiwr cymdeithasol, gallwch gysylltu â Thîm Cyswllt a Chyfeirio Gwasanaethau Plant.

Cysylltwch â ni