Beth yw camdriniaeth?

Gall y canlynol eich helpu i benderfynu a oes perygl i les plentyn o ran camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.

Arwyddion a all awgrymu camdriniaeth gorfforol:

  • Cleisiau ar fabi – cyn y cyfnod cerdded
  • Cleisiau niferus ar rannau gwahanol o’r corff
  • Cleisiau o liwiau gwahanol sy’n dynodi anafiadau sy’n digwydd dros amser
  • Cleisiau maint blaenau bysedd i’r frest, cefn, breichiau neu goesau
  • Llosgiadau o unrhyw siâp neu faint
  • Anaf heb esboniad digonol amdano
  • Mae plentyn yn dweud wrthych chi amdano

Arwyddion o gamdriniaeth rywiol bosibl:

  • Rhywbeth y mae plentyn wedi’i ddweud wrthych
  • Rhywbeth y mae plentyn wedi’i ddweud wrth rywun arall
  • Plentyn sy’n dangos ymddygiad rhywiol wrth chwarae neu gyda phlant eraill sy’n achosi pryder
  • Plentyn y mae’n ymddangos bod ganddo wybodaeth rywiol amhriodol i’w oedran
  • Plentyn sy’n ymweld â, neu sy’n derbyn gofal gan droseddwr rhyw neu rywun rydych yn ei amau o fod yn droseddwr rhyw

Arwyddion a all awgrymu niwed emosiynol:

Gall yr arwyddion canlynol fod yn bresennol mewn plant sydd â rhieni gor-feirniadol ac oeraidd yn emosiynol neu nad ydynt yn gallu diwallu anghenion emosiynol eu plant:

  • Plant y mae eu hymddygiad yn ormodol, er enghraifft gwlychu’r gwely’n ormodol, gorfwyta, siglo, taro’u pennau.
  • Plant sy’n hunan-niweidio. Er enghraifft, efallai eu bod yn torri neu’n crafu’u hunain neu’n cymryd gor-ddôs.
  • Plant sy’n ceisio cyflawni hunan-laddiad
  • Plant sy’n rhedeg i ffwrdd o gartref yn gyson
  • Plant sy’n dangos lefelau uchel o bryder, anhapusrwydd neu sy’n encilio
  • Plant sydd fel arfer yn chwilio am agosatrwydd neu sy’n osgoi agosatrwydd

Arwyddion a all awgrymu esgeulustod:

  • Cartref budr neu beryglus
  • Rhieni sy’n methu â diwallu anghenion iechyd neu ddatblygiad eu plant
  • Plant sydd ymddangos yn fach i’w hoed neu o dan bwysau yn barhaus
  • Plant sy’n ymddangos yn flinedig ac yn ddi-egni yn barhaus
  • Plant sy’n dioddef anafiadau rheolaidd oherwydd diffyg goruchwyliaeth
Cysylltwch â ni