Plant sydd ar goll o’u cartref
Os ydych yn poeni am blentyn sydd ar goll dylech ffonio’r heddlu ar 999
Mae Prosiect Pobl sydd ar Goll Gwent yn rhoi mwy o wybodaeth am blant sy’n mynd ar goll o’r cartref neu ofal. Sefydlwyd y prosiect yn 2011 i edrych ar yr angen i roi gwybod i’r heddlu am blant a phobl ifanc sydd ar goll a gwella’r ffordd y mae’r holl asiantaethau yn ymateb gyda’r bwriad o wella canlyniadau, lleihau dyblygu gwaith a lleihau’r bylchau a’r gwastraff yn y broses.