Chwarae â rhannau rhydd
Beth yw rhannau rhydd?
Mae rhannau rhydd yn cynnig cyfleoedd chwarae di-rif. Maen nhw'n eitemau gall plant eu trin, addasu, adeiladu a'u chwalu wrth chwarae.
Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn cynnig cyfle i blant wneud myrdd o ddewisiadau a siapio eu chwarae fel maen nhw’n dymuno. Mae plant yn gwneud defnydd eang o rannau rhydd mewn darpariaethau chwarae, ysgolion ac amgylcheddau gofal plant.
Mae'n ffordd wych o ailddefnyddio deunyddiau fel pethau i blant chwarae gyda nhw, ac rydyn ni hefyd yn hybu defnydd o rannau rhydd gan ei fod yn hybu creadigrwydd ac yn darparu profiad chwarae cyfoethog i blant.