Chwiliadau hanes teuluol

Mae nifer o ffyrdd i ddechrau olrhain eich hanes teuluol. Gallwch edrych ar dystysgrifau geni eich rhieni i ddod o hyd i enwau teuluol eich tad a mam.

Byddai tystysgrif priodas yn well gan fod hyn yn dangos nid yn unig enwau'r person, ond hefyd enwau'r tadau a'u proffesiynau.

Siaradwch ag aelodau hŷn y teulu. Maent yn ffynhonnell wych o wybodaeth, fel y mae hen ffotograffau, dyddiaduron, toriadau papur newydd ac unrhyw archifau teuluol.

Adnoddau hanes lleol

Llyfrgell Bargod a'r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd yw'r prif ganolfannau ar gyfer ymchwil hanes teuluol yn y fwrdeistref sirol ac mae pobl yn teithio o bob cwr o'r byd i ymchwilio eu hanes teuluol yno.

Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys gwybodaeth y cyfrifiad lleol ar gyfer y blynyddoedd 1841-1901 a'r Mynegeion Cofrestru Sifil ar gyfer y blynyddoedd 1837-2002 ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a phriodasau.

Adnoddau eraill

Mae yna ddigonedd o adnoddau ar gael i chi os ydych yn dymuno olrhain eich hanes teuluol, megis:

BBC Family History
Cronicl Caerffili
Ymchwilio’r teulu
Swyddfa Gofrestru Gyffredinol
Society of Genealogists

Gwybodaeth bellach

Os hoffech gael gwybodaeth bellach am olrhain eich hanes teuluol neu os ydych â diddordeb mewn gwneud cais am chwiliad cyffredinol, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru.

Cysylltwch â ni