Copi o dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
Gwybodaeth am coronafeirws: Os oes angen tystysgrif arnoch chi o gofnodion a gedwir yn swyddfa gofrestru ardal Caerffili, gallwch chi wneud cais dros y ffôn, drwy anfon e-bost neu drwy ddefnyddio ein proses ymgeisio ar-lein. Yna byddwn ni’n postio'r dystysgrif atoch chi.
Rydym yn cadw cofnod o’r rhan fwyaf o enedigaethau a fu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ers 1837.
Ni allwn ond rhoi copïau o dystysgrifau geni os bydd y cofrestriad gwreiddiol yn ein meddiant. Fel arall bydd rhaid i chi geisio cael copi gan y swyddfa gofrestru lle mae’r cofnod gwreiddiol.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu
Lle bynnag y mae hynny’n bosib bydd rhaid i ni gael yr wybodaeth ganlynol am y person(au) sydd ar y dystysgrif a geisir:
- Enwau'r ddau barti i'r briodas
- Enw cyn priodi neu unrhyw enwau blaenorol a ddefnyddir gan y naill barti neu'r llall
- Dyddiad y briodas/partneriaeth sifil (yn fras y mis/blwyddyn os nad yw'r union ddyddiad yn hysbys)
- Lleoliad y briodas/partneriaeth sifil
Sut i wneud cais am gopi o dystysgrif
Fel arall, cysylltwch â’r swyddfa gofrestru.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais byddwn yn chwilio am y cofnod gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd gennych. Wedyn byddwn yn cysylltu â chi, ac os byddwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael hyd i’r cofnod, byddwn yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.
Pa mor hir fydd yn ei gymryd?
Rydym yn cynnig gwasanaethau safonol a blaenoriaeth.
Ar gyfer costau pob gwasanaeth, ymwelwch â’r adran costau a ffioedd ar gyfer tystysgrifau.
Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu ffotocopïo at ddibenion swyddogol.
Chwilio'r Gofrestr Hanesyddol. Mae'r mynegai i'r genedigaethau, marwolaethau a phriodasau sydd wedi'u cofrestru ym mwrdeistref sirol Caerffili rhwng 1837 a 1950 bellach ar gael i'w chwilio ar-lein.
Cliciwch yma i chwilio'r gofrestr hanesyddol.