Canllaw i Ddefnyddio Trefnydd Angladdau

Ymddangosodd Trefnu Angladdau fel proffesiwn yn rhan olaf y 1700au. Cyn y dyddiad hwnnw, cafodd angladdau eu trefnu drwy unigolion, megis seiri, torwyr beddi a'r clerigwyr. Ar ôl yr angladd, cafodd yr ymadawedig ei gladdu mewn mynwent eglwys.

Yn oes Fictoria, cafodd y cysylltiad masnachol â marwolaeth ei ddatblygu, ac arweiniodd hyn at ddefnyddio Trefnwyr Angladdau yn amlach, gan gynnwys yr arferion o ddefnyddio hersiau, gwerthu eirch a gwisgo mewn du. Datblygodd dyletswyddau Trefnwyr Angladdau i gynnwys trefnu'r seremoni a darparu'r dodrefn a'r cludiant i gynnal yr angladd.

Nid yw angladdau wedi newid fawr ddim yn y cyfamser ar wahân i beiriannau petrol yn cymryd lle marchnerth ac amlosgu yn cymryd lle claddu mewn mynwentydd. Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn y proffesiwn yn ddynion yn oes Fictoria ac nid yw hyn wedi newid; ychydig iawn o fenywod sy'n gweithredu fel trefnwyr neu gludwyr angladdau ar hyn o bryd.

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol bod trefnwyr angladdau yn gallu sefydlu busnes heb hyfforddiant na chymwysterau, ac nid oes angen “trwydded”. Nid oes unrhyw safon gyffredinol yn berthnasol ac, o ganlyniad, mae'n anodd gwahanu trefnydd angladdau da oddi wrth un difater.

Mae rhai trefnwyr angladdau yn aelodau o sefydliadau proffesiynol sy'n gallu gweithredu cod ymddygiad a gweithdrefn gwyno. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau (NAFD) a Chymdeithas Trefnwyr Angladdau Perthynol ac Annibynnol (SAIF) yn enghreifftiau o'r rhain.

Mae trefnwyr angladdau wedi denu beirniadaeth anffafriol, ac eto, nid yw pobl yn aml yn deall eu rôl a'u swyddogaeth. Maen nhw'n trefnu angladdau gyda phobl ofidus, ac yn aml, gyda phobl nad oes ganddyn nhw unrhyw ddisgwyliadau o angladdau na sut i'w trefnu. Mae angladd yn bryniant “argyfwng” ac yn wahanol i unrhyw bryniant arall.

Er bod llawer o weithrediadau ymarferol yn angenrheidiol, mae'r boddhad yn dibynnu ar yr angladd yn diwallu anghenion athronyddol ac anghenion mwy cymhleth eraill. Mae sylw anystyriol, jôc neu ddefnyddio'r enw anghywir i gyd yn agweddau sy'n gallu dinistrio ansawdd yr angladd. Os bydd trefnwyr angladdau yn methu â darparu eu gwasanaeth, mae'n gallu bod oherwydd y trallod a'r argyfwng sy'n gysylltiedig â'r farwolaeth. Mae hyn yn pwysleisio'r angen i bawb gael gwybod a pharatoi ar gyfer marwolaeth ac angladdau. Mae cwblhau ewyllysiau a chyfarwyddebau angladdau yn grymuso'r rhai sy’n galaru ac yn lleihau eu dibyniaeth ar y trefnydd angladdau ar adeg dyngedfennol marwolaeth.

Mae “pecyn” y trefnwyr angladdau wedi’i amlinellu’n gryno fel a ganlyn. Mae’r ysgutor neu’r sawl sy’n trefnu’r angladd yn ffonio’r trefnydd angladdau, a fydd yn trefnu i’w weld ac yn trafod trefniadau’r angladd. Bydd y trefnydd angladdau yn casglu’r corff, naill ai o’r cartref, o gorffdy neu gartref nyrsio ac yn ei baratoi i’w weld, sy'n gallu cynnwys balmeiddio arferol (triniaeth gosmetig).

Fel arfer, mae dewis o eirch yn cael ei gynnig, ac mae'n bosibl gweld yr ymadawedig, drwy apwyntiad, mewn capel gorffwys. Ar rai achlysuron, bydd y corff yn yr arch yn cael ei gludo yn ôl i gartref yr ymadawedig, os yw’r teulu’n dymuno hynny. Bydd y trefnydd angladdau yn cysylltu â’r fynwent neu’r amlosgfa i drefnu dyddiad ac amser yr angladd ac yn sicrhau bod y tystysgrifau a’r ffurflenni’n cael eu cwblhau a’u cludo i swyddfa’r fynwent neu’r amlosgfa.

Bydd manylion am drefn y gwasanaeth a'r gerddoriaeth yn cael eu darparu, os bydd angen. Bydd y trefnydd angladdau yn talu'r ffioedd amrywiol dan sylw, sef alldaliadau. Mae’r rhain yn cynnwys ffioedd y fynwent neu’r amlosgfa, ffi’r gweinidog, ac ati. Bydd darparu teyrngedau blodau a theyrngedau mewn papur newydd, os oes angen, hefyd yn cael eu trefnu. Bydd hers a'r limwsinau i'w dilyn yn cael eu darparu a bydd yr angladd yn cael ei gynnal dan arweiniad y trefnydd angladdau. Wedi hynny, bydd cyfriflen yn cael ei hanfon ar ôl yr angladd. Dylai'r gyfriflen fod wedi cael ei heitemeiddio a dylai ddiffinio'n glir y treuliau sydd wedi'u talu ar ran y sawl sy'n trefnu'r angladd.

Er bod trefnwyr angladdau yn helpu, yn cysuro ac yn arwain y rhai mewn profedigaeth – ac fel arfer, maen nhw’n gwneud hynny mewn ffordd fuddiol iawn – nid yw hynny'n eu hatal rhag bod yn destun dadansoddiad beirniadol. Hyd yn oed os ydyn nhw'n cyflawni eu swyddogaethau unigol i safonau rhagorol, mae’r broses maen nhw'n ei defnyddio i reoli a dylanwadu ar angladdau wedi bod yn destun beirniadaeth anffafriol.

Tryloywder pris

Mae'r rhan fwyaf o angladdau yn cael eu gwerthu fel “pecyn”, a gall fod yn anodd cael pris gwirioneddol ar gyfer pob elfen. Mae hyn yn creu anawsterau arbennig pe baech chi'n dymuno hepgor rhai elfennau sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn. Mae’r Swyddfa Masnachu Teg wedi awgrymu y dylai “tryloywder pris” fod yn berthnasol i gostau trefnu angladdau.

Byddai hyn yn arwain at godi tâl hysbys am bob elfen o'r angladd, gan ganiatáu'r hawl i'r rhai sy'n galaru ddewis mwy neu lai o elfennau yn unol â'u hanghenion. Er enghraifft, gallai’r teulu gadw’r corff gartref ond prynu arch a hurio hers gan drefnydd angladdau, gan gwblhau gweddill y trefniadau eu hunain. Byddai angladd o'r fath yn caniatáu i'r teulu ymwneud â'r trefniadau mewn modd mwy personol a byddai'n rhatach.

Yn gyffredinol, nid yw trefnwyr angladdau yn cynnig tryloywder pris ac yn parhau i hyrwyddo "pecynnau" angladd. Er mwyn deall hyn yn well, mae'n bosibl gwneud cyfatebiaeth gyda bil garej. Os yw eich car yn cael ei wasanaethu, byddwch chi'n talu pris penodol am bob rhan, olew a deunyddiau eraill sydd wedi cael eu defnyddio.

At hyn, maen nhw'n ychwanegu bil llafur adnabyddadwy. Mewn cyferbyniad, mae’n well gan rai trefnwyr angladdau beidio â chodi bil “llafur” am yr amser maen nhw'n ei dreulio'n trefnu angladd. Maen nhw'n cwmpasu'r gost am eu hamser drwy ei ddosrannu ar gost yr arch, y defnydd o gerbydau ac elfennau eraill.

Yr arch yw'r un eitem sy'n cario'r gyfran fwyaf o'u costau, ac o ganlyniad, gall yr eitem hon ymddangos yn ddrud. Gall cost arch safonol amrywio yn dibynnu ar y math o ddeunydd a'r gorffeniad sy’n cael eu dewis. Mae eirch ar gael mewn deunyddiau pren traddodiadol ond hefyd mewn cardbord, helyg a gwlân.

Mae gwybodaeth am eirch, eu defnydd a deunyddiau yn cael ei thrafod yn yr eitem ‘Eirch a Dewisiadau Amgen’ Siarter y Galarwyr. Mae’n werth nodi bod trefnwyr angladdau yn “cyfarwyddo” angladdau, nad yw’n awgrymu bod yn rhaid iddyn nhw “gyflenwi” y cynhyrchion sy’n cael eu defnyddio fel rhan o’u gwasanaeth. Dylech chi ddisgwyl yn rhesymol cael arch, casged, teyrngedau blodau, cofebion, ac ati o ffynhonnell sy'n annibynnol o'r trefnydd angladdau, os dymunwch chi.

Amrywiaeth o gyfleusterau

Yn gyffredinol, mae pobl yn meddwl bod pob trefnydd angladdau yn fusnes mawr, masnachol gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau. Nid yw hyn yn wir ac mae llawer o drefnwyr angladdau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn fusnesau bach un person. Efallai nad oes ganddyn nhw Gapel Gorffwys na chyfleusterau i embalmio ac maen nhw'n hurio hersiau a cheir gan gwmnïau eraill. Efallai y byddwch chi am ystyried y gwahaniaethau hyn cyn i chi fynd at drefnydd angladdau.

Er enghraifft, os oes angen angladd anffurfiol arnoch chi, efallai y byddai'n well gennych chi newid yr hers am y car stad y mae llawer o drefnwyr angladdau yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i gasglu cyrff o gorffdai a chartrefi nyrsio. Er mwyn osgoi defnyddio limwsinau, gallech chi hefyd ddefnyddio eich cerbydau eich hun i gwrdd yn yr eglwys, y fynwent neu'r amlosgfa. Bydd hyn yn cyferbynnu ag angladd ffurfiol y gallwch chi ei ragweld os byddwch chi'n defnyddio gwasanaeth trefnu angladdau mwy a fydd yn darparu’r amrywiaeth gyflawn o wasanaethau, fel hers ddrud gyda'r limwsinau i'w dilyn, ac ati.

Mae rhai trefnwyr angladdau yn berchen ar gwmnïau sy'n cyflenwi teyrngedau blodau a chofebion neu mae ganddyn nhw drefniadau gyda'r cwmnïau hynny. Er y gallai hyn fod yn gyfleus fel rhan o becyn angladd cyflawn, gallai eich atal chi rhag defnyddio cyflenwyr annibynnol.

Arloesi mewn trefnu angladdau

Mewn gwahanol rannau o'r wlad, mae arloesiadau mewn trefnu angladdau yn digwydd. Mae’n bosibl y gall eich aelod Siarter roi cyngor i chi ynglŷn â’ch sefyllfa leol chi. Mae datblygiadau o’r fath yn cynnwys trefnwyr angladdau “annibynnol” sy'n gallu cynnig “dewislen” gyda'r costau cyflawn a’ch helpu chi i wneud cymaint neu cyn lleied ag y dymunwch chi o ran trefnu'r angladd.

Hefyd, mae yna “siopau eirch” a chwmnïau “angladdau gwyrdd” mewn rhai ardaloedd sy’n cynnig dewislen o'r costau, eirch bioddiraddadwy ac mae llawer yn hwyluso angladdau gwyrdd. Ym 1995, agorodd yr “archfarchnad angladdau” gyntaf yn Llundain, gan ail-wneud gwasanaethau tebyg yn Ffrainc. Efallai y bydd y Ganolfan Marwolaeth Naturiol yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwasanaethau hyn a chynnig manylion cyswllt i chi.

Perchen ar gwmnïau

Yn y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiad yn nifer y trefnwyr angladdau sy'n cael eu gweithredu gan deulu lleol. Ychydig iawn o bobl sy'n sylweddoli bod cwmnïau mawr bellach yn berchen ar lawer o drefnwyr angladdau teuluol ledled y wlad. Mae'n bosibl na fydd y perchnogion newydd yn cael eu datgelu ar arwyddion siop neu benawdau llythyrau. Gall y cwmnïau hyn barhau i fasnachu ar sail y casgliad o rinweddau gofalu a chysylltiad lleol yr hen gwmni teuluol.

Gwasanaethau angladdau trefol

Mae gwasanaethau angladdau trefol ar gael mewn rhai rhannau o'r wlad. Mae awdurdodau lleol yn eu ffurfio, ac fel arfer, maen nhw'n contractio'r gwasanaeth i drefnydd angladdau sy'n gweithredu'n barod. Maen nhw'n cynnig angladdau pris sefydlog, ond fel arall, maen nhw'n dilyn patrymau traddodiadol. Gan fod yr angladd, fel arfer, yn cael ei werthu fel pecyn, efallai na fydd tryloywder pris yn cael ei gynnig. Serch hynny, gall cost y pecyn fod yn llai costus na gyda threfnwr angladdau preifat. Fel ym mhob achos, mae'n hanfodol cael dyfynbris cyn gwneud penderfyniad.

Y gyfraith

Mae cyfraith gwlad yn cydnabod bod angladd yn cynnwys dilyniant o dasgau a digwyddiadau, a rhaid i bob un ohonyn nhw fod yn foddhaol. Pan fydd hyd yn oed elfen sengl yn cael ei pherfformio'n anfoddhaol, gall y sawl sy'n talu am yr angladd anghytuno â thaliad y cyfrif angladd cyfan. Nid yw’r alldaliadau yn rhan o daliadau’r trefnydd angladdau a rhaid eu talu. Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd yn rhaid talu'r alldaliadau cyn yr angladd.

Dylai gael ei nodi bod pwy bynnag sy'n archebu'r angladd yn dod yn atebol am gostau'r angladd. Mewn rhai achosion, mae ffrind wedi trefnu angladd dim ond i ganfod nad oedd gan yr ymadawedig unrhyw eiddo nac arian. O ganlyniad, roedd y ffrind yn atebol am holl gost yr angladd.

Talu am yr angladd

Awgrymodd cylchgrawn “Which” (Chwefror 1995) y dylai’r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau allu rhoi amcangyfrif o'r cost o angladd sylfaenol, ac ni ddylech chi eu defnyddio os nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny. Dylech chi ddisgwyl yn rhesymol i gael rhestr fanwl o brisiau gwahanol elefenau'r angladd, gan gynnwys unrhyw alldaliadau.

Mae llawer o bobl yn poeni am eu gallu i dalu am angladd. Mae adroddiadau yn y cyfryngau am gost uchel angladdau yn atgyfnerthu'r canfyddiad bod angladdau'n ddrud. Gall ystyried yr angladd ymlaen llaw leihau'r pryder hwn. Bydd hyn yn galluogi costau i gael eu nodi ac, o bosibl, eu lleihau. Bydd yr wybodaeth yn y Siarter hon yn galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud a chael dyfynbrisiau ymlaen llaw.

Mae rhai pobl yn lleddfu’r pryder o dalu am angladd drwy brynu “Cynllun Angladd”. Ar gyfer y bobl hyn, mae nifer o opsiynau ar gael. Mae angen eu hystyried yn ofalus yn wyneb yr hyrwyddiad masnachol helaeth y mae cynlluniau angladd yn ei gael ar hyn o bryd. Hefyd, mae angen i chi ystyried y posibilrwydd y gallai opsiynau angladd rhatach godi yn y dyfodol, yn enwedig os bydd amcanion y Siarter yn llwyddiannus.

Os ydych chi'n prynu cynllun angladd, mae angen dewis pecyn amlosgi neu becyn claddu sy'n cwrdd â'ch anghenion chi. Mae angen ystyried y cynlluniau hyn yn ofalus iawn oherwydd, efallai, na fydd rhai o'r opsiynau sylfaenol yn ddigon pan fyddwch chi'n marw. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid talu rhagor am weld y corff neu er mwyn embalmio'r corff os nad yw'r elfennau hyn o'r angladd wedi'u cynnwys yn y cynllun. Hefyd, gall y cynllun gael ei gyfyngu i ddefnyddio trefnydd angladdau wedi'i enwi.

Ymchwiliodd y Swyddfa Masnachu Teg i gynlluniau angladd ym 1994 ac mae wedi argymell nifer o fesurau diogelu ynglŷn â'r arian sy'n cael ei dalu ar gyfer cynlluniau o'r fath. Mae angen sicrhau bod y cronfeydd yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth gydag ymddiriedolwyr annibynnol.

Mae'n bosibl talu am gynlluniau angladd mewn rhandaliadau neu drwy gyfandaliad. Mae hyn yn galluogi'r angladd i gael ei dalu ar brisiau cyfredol, heb boeni ymhellach am gynnydd yng nghostau angladdau yn y dyfodol. Gallwch chi dalu drwy unrhyw drefnydd angladdau sy’n cymryd rhan, neu’n uniongyrchol i “Golden Charter”, “Chosen Heritage” neu gynllun tebyg.

Mae cwmnïau yswiriant yn cynnig polisïau i dalu biliau angladd rydych chi'n gallu eu talu dros nifer o flynyddoedd. Hefyd, bydd rhai trefnwyr angladdau yn agor cyfrif ar y cyd gyda chi, neu’n cynnig opsiynau eraill i adneuo arian i’w dalu i’r cyfrif angladd yn y dyfodol.

Os yw’r person sy’n gyfrifol am yr angladd neu ei bartner yn cael budd-daliadau penodol, efallai y bydd cymorth ariannol i dalu am yr angladd ar gael gan y Gronfa Gymdeithasol. Mae gorchymyn blaenoriaeth wedi’i gyflwyno i sefydlu pwy ddylai gael ei ystyried yn “gyfrifol” am dalu am angladd. Mae hyn yn gallu bod yn un neu ragor o berthnasau. Ni ddylech chi ymrwymo i dalu am angladd nes bod y rhai sy'n gyfrifol wedi cael eu canfod.

Mae cyngor da ar dalu am angladdau ac am angladdau yn gyffredinol i'w gael yn y cyhoeddiadau gan yr Asiantaeth Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys “Help when someone dies” (taflen FB29) and “What to do after death” (taflen D49). Mae Age Concern yn amlwg yn eu cyngor ar angladdau ac yn cynnig taflen ffeithiau o'r enw “Trefnu angladd”. Mae sefydliadau eraill yn cynnig cymorth ac mae'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth.

Nid yw’n ymddangos bod lleihau costau angladd drwy ddefnyddio “pŵer y prynwr” wedi cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhagdybio y byddai grwpiau mawr, cynrychioliadol o bobl wedi ymddeol a/neu oedrannus yn paratoi manyleb angladd sy'n bodloni anghenion aelodau'r grŵp. Byddai hwn yn cael ei anfon at drefnwyr angladdau sy'n gallu, yn seiliedig ar nifer gwarantedig o angladdau, cynnig pris sefydlog is.

Gall y trefniant hwn apelio at drefnwyr angladdau annibynnol llai sy'n gallu bod â gorbenion is a bod mewn sefyllfa i leihau costau. Mae'r trefniant hwn yn cynnig llawer mwy o reolaeth i'r grŵp dros brisiau nag a fyddai gydag unrhyw unigolyn. Byddai'r wybodaeth yn y Siarter, ynghyd â chyngor y Cyngor, yn hwyluso'r gwaith o baratoi manyleb angladd.

Gall prynu rhai elfennau ymlaen llaw leihau cost angladd. Ar gyfer claddedigaeth, mae'n bosibl prynu bedd a gosod cofeb cyn marwolaeth. Er mae'n bosibl prynu neu adeiladu arch ymlaen llaw, mae angen sicrhau y bydd unrhyw drefnydd angladdau sydd wedi’i gontractio ar gyfer yr angladd yn ei defnyddio.

Yn olaf, pan fydd person yn marw yn yr ysbyty ac nad oes neb sy’n awyddus i drefnu a thalu am yr angladd, bydd yr Awdurdod Iechyd yn cyflawni ei rwymedigaeth. Yn yr un modd, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i drefnu i unrhyw berson sydd wedi marw yn eu hardal gael ei gladdu neu ei amlosgi. Rhaid iddi ymddangos i’r awdurdod nad oes unrhyw drefniadau addas ar gyfer gwaredu’r corff wedi’u gwneud nac yn cael eu gwneud heblaw gan yr awdurdod. Gall yr awdurdod lleol adennill treuliau o unrhyw eiddo. Os nad oes eiddo, bydd angladd sylfaenol yn cael ei drefnu sy'n gallu cynnwys defnyddio bedd heb ei brynu.

Rhoddion mewn angladdau

Mae rhai pobl yn poeni am y gwariant gormodol am dorchau a theyrngedau blodau mewn angladdau. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y gaeaf pan allai'r blodau gael eu difrodi gan rew neu dywydd garw o fewn oriau ar ôl yr angladd. Dewis arall yw trefnu casgliad ar gyfer elusen, hosbis neu achos haeddiannol arall wedi'i enwi. Mae gofyn am “blodau teulu” neu “dim blodau ar gais” yn aml yn hwyluso hyn.