Y dibenion Elusennol y gellir defnyddio Cronfa’r Degwm ar eu cyfer

Hyrwyddo Addysg

Addysgol

Darparu buddion nad ydynt ar gael yn rhwydd o ffynonellau eraill ar gyfer pobl o unrhyw oedran mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol -

  • Dyfarnu ysgoloriaethau, bwrsariaethau, benthyciadau neu lwfansau cynhaliaeth i alluogi neu i gynorthwyo astudio mewn unrhyw ysgol, prifysgol neu fan dysgu arall, a gymeradwywyd gan y Cyngor, a all, os gwêl y Cyngor yn dda, gynnwys lwfansau i ddibynyddion.
  • Darparu cymorth ariannol, gwisgoedd, dillad, offer, offerynnau, cyfarpar arall, neu lyfrau neu fenthyciadau i alluogi disgyblion neu fyfyrwyr ar ôl gadael yr ysgol, prifysgol neu unrhyw sefydliad addysgol arall i baratoi ar gyfer, neu i'w cynorthwyo i ymuno â phroffesiwn, masnach neu alwad.
  • Dyfarnu ysgoloriaethau neu lwfansau cynhaliaeth neu fenthyciadau i alluogi buddiolwyr i deithio dramor i ddilyn eu haddysg. 
  • Y ddarpariaeth, neu'r cymorth tuag at ddarparu cyfleusterau o unrhyw fath nad ydynt fel arfer yn cael eu darparu gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol a gynhelir â grant, ar gyfer hamdden, hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol mewn ysgol, prifysgol neu sefydliad addysgol arall. 
  • Darparu cymorth ariannol i alluogi disgyblion a myfyrwyr i astudio cerddoriaeth neu gelfyddydau eraill. 
  • Darparu cymorth ariannol i alluogi buddiolwyr i ymgymryd â phrentisiaethau.

Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd, Orielau Celf ac ati

Hyrwyddo gwybodaeth a gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru ac, yn benodol, hyrwyddo'r dibenion hynny ond heb amharu ar eu cyffredinolrwydd -

  • sefydlu, cynnal a chadw, ailgyflenwi neu gynorthwyo sefydliadau elusennol, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau celf; neu arddangosfeydd celf, gwyddonol neu ddiwydiannol (gan gynnwys arddangosfeydd sy'n ymwneud ag archaeoleg ddiwydiannol); boed yn genedlaethol neu'n lleol, at brif ddefnydd a budd pobl Cymru; 
  • cymorth cymdeithasau elusennol ar gyfer astudio ac ymchwil mewn pynciau sy'n gysylltiedig â hanes, topograffeg, llenyddiaeth a bywyd Cymru;
  • darparu darlithoedd, arddangosfeydd ac offer;
  • caffael, cadw a chyhoeddi cofnodion a dogfennau; 
  • darparu mangre addas (drwy godi, prynu, prydlesu neu logi at ddefnydd achlysurol) at unrhyw un neu rai o'r dibenion a awdurdodir gan y paragraff hwn. 

Rhyddhad Tlodi

Rhyddhad mewn angen

Y rhyddhad naill ai'n gyffredinol neu'n unigol o bersonau sydd mewn amodau o angen, caledi neu ofid drwy wneud grantiau arian neu ddarparu, neu dalu am, eitemau, gwasanaethau neu gyfleusterau a gyfrifir i leihau angen, caledi neu ofid personau o'r fath.

Hyrwyddo Crefydd

Mannau addoli a thiroedd claddu

Y cyfraniad tuag at adfer a chynnal unrhyw fan addoli cyhoeddus neu unrhyw dir claddu.

Dibenion Eraill Sy'n Fuddiol i'r Gymuned

Rhyddhad yn ystod Salwch

Y rhyddhad mewn achosion o angen personau sy'n sâl, yn ymadfer, yn anabl, dan anfantais neu'n eiddil drwy ddarparu, neu dalu am, eitemau, gwasanaethau neu gyfleusterau a gyfrifir i leddfu dioddefaint neu helpu i adfer personau o'r fath, ond nad ydynt ar gael yn rhwydd iddynt o ffynonellau eraill. 

Pobl Oedrannus

Darparu neu gynorthwyo i ddarparu llety ar gyfer pobl oedrannus y mae arnynt angen darpariaeth, gofal a sylw oherwydd eiddilwch ac anableddau o'r fath.  Darparu arian i sefydliadau sy'n hyrwyddo lles pobl oedrannus. 

Cymdeithasol a Hamdden

Darparu, neu gynorthwyo i ddarparu, cyfleusterau ar gyfer adloniant neu alwedigaeth amser hamdden arall sy’n gyfleusterau sydd ar gael i aelodau’r cyhoedd yn gyffredinol ac a ddarperir er budd lles cymdeithasol, gyda golwg ar wella amodau bywyd y personau y’u bwriadwyd ar eu cyfer ac, yn benodol, er mwyn hyrwyddo’r dibenion hynny ond heb amharu ar eu cyffredinolrwydd, darparu neu gynorthwyo i ddarparu caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon eraill, parciau, mannau agored a chanolfannau neu neuaddau ar gyfer cyfarfodydd, darlithoedd neu ddosbarthiadau.

Bwriedir i is-baragraff (1) yn benodol ymwneud â darparu cyfleusterau ac ati, neu eu cynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ac ati, oherwydd eu hieuenctid, eu henaint, eu heiddilwch neu eu hanalluogi, eu tlodi neu eu hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd.

Materion Esthetig, Pensaernïol, Hanesyddol a Gwyddonol

Hyrwyddo addysg a budd cyhoeddus pobl Cymru drwy hyrwyddo eu diddordeb mewn materion esthetig, pensaernïol, hanesyddol neu wyddonol sy'n ymwneud â Chymru ac yn arbennig i hyrwyddo'r materion hynny ond heb amharu ar gyffredinolrwydd y materion hynny:

Caffael a chadw -  

  • Tir o Ddiddordeb arbennig mewn perthynas â gwyddoniaeth a hanes naturiol 
  • Tir, adeiladau neu wrthrychau o harddwch neu o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol. 

Daffael, cadw a chyhoeddi cofnodion a dogfennau o ddiddordeb hanesyddol. 

Ymchwil Feddygol a Chymdeithasol, Triniaeth, ac ati. 

Diogelu ac amddiffyn iechyd corfforol a meddyliol cymdeithas ac, yn benodol, er mwyn hyrwyddo’r dibenion hynny ond heb amharu ar eu cyffredinolrwydd -

  • Hyrwyddo addysg mewn theori ac ymarfer meddygaeth;  
  • Hyrwyddo ymchwil a chynlluniau meddygol a chymdeithasol ar gyfer atal a thrin clefydau a chyhoeddi canlyniadau ymchwil o'r fath; 
  • Darparu cartrefi a hosteli meithrin ac ymadfer.

Prawf ac ati

Gwneud grantiau mewn achosion o angen am gymorth -

  • I bersonau a osodir ar brawf, neu blant a phobl ifanc o gartrefi cymunedol neu unrhyw sefydliad arall sydd o natur sylweddol debyg a sefydlwyd o dan awdurdod statudol;
  • I deuluoedd unrhyw bersonau, plant neu bersonau ifanc o'r fath; neu
  • I bersonau a ryddhawyd.

Pobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg

Darpariaeth ar gyfer lles pobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu golwg, gan gynnwys darparu cartrefi elusennol a chartrefi gwyliau.

Argyfyngau neu Drychinebau

Cyfraniad tuag at liniaru effeithiau argyfyngau neu drychinebau sy’n ymwneud â dinistrio, neu beryglu, bywyd ac eiddo a chynorthwyo’n uniongyrchol bobl mewn angen o ganlyniad i argyfyngau a thrychinebau o’r fath.

Sefydliadau Elusennol Eraill

Cyfraniadau tuag at sefydliadau elusennol, y mae eu dibenion yn gyson â darpariaethau’r Cynllun hwn neu Ddeddfau’r Degwm 1914 i 1945.