Cronfa Eglwysi Cymreig

Pwrpas y cynllun grantiau yw hybu gweithgareddau mudiadau gwirfoddol sydd o les i bobl Bwrdeistref Sirol Caerffili ac sy'n cyfoethogi cymunedau lleol.

Pwy sydd â'r hawl i wneud cais?

Cymdeithasau, mudiadau a sefydliadau gwirfoddol cofrestredig sy'n cyfrannu at fywyd cymunedol lleol. Yn ogystal ag eglwysi neu gapeli, mae sefydliadau cymunedol a phrosiectau sy'n seiliedig yn y gymuned yn gymwys ar gyfer cyllid, os yw'r prosiectau arfaethedig at ddibenion sy'n fuddiol i'r gymuned, fel y diffinnir gan Gronfa Eglwysi Cymru.

Faint o grant sydd ar gael?

Cyfanswm yr incwm blynyddol ar gyfer y gronfa yw tua £60,000. Mae grantiau ar gyfer cynlluniau cyfalaf yn unig. Mae grantiau gwerth hyd at £7,500 ar gael. Gall ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf ac sy'n costio £7,500 neu lai gael eu hariannu'n llawn â grant. Ar gyfer prosiectau sy'n costio dros £7,500 , mae grantiau hyd at yr uchafswm ar gael.

Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?

Mae modd cyflwyno cais ar unrhyw adeg, ac mae ceisiadau'n cael eu hasesu'n fisol.

Sut i wneud cais

Mae'r dibenion elusennol y GELLIR gwneud cais i Gronfa Eglwysi Cymru ar eu cyfer nhw wedi'u hatodi isod:

Yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth 2019, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo'n ffurfiol y meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae'r meini prawf cytunedig a’r ffurfflen gais wedi'u hatodi isod:

Os ydych chi o'r farn bod eich prosiect yn bodloni'r meini prawf cytunedig, lawrlwytwch y ffurfflen gais. Byddem ni'n croesawu sgwrs â chi, fel y gallwn ni ddeall beth fydd eich prosiect yn ei olygu, sicrhau bod y prosiect yn bodloni’r meini prawf ymgeisio a helpu sicrhau bod y broses ymgeisio mor rhwydd â phosibl.

Nodwch, os ydych angen cymorth wrth ddatblygu eich prosiect neu wrth gyflawni’r ffurflen gais, gallwch gysylltu a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent neu Gofalu am Gaerffili ar gyfer cymorth a chyngor.

Cysylltwch â: Tîm Polisi a Phartneriaethau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG

E-bost: GrantiauCymunedol@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866391