Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
​Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cyllid gwerth £350,000 i wneud gwelliannau priffyrdd pellach ar ffordd allweddol rhwng Wyllie ac Ynys-ddu i helpu lleihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau pellach ar y ffordd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu dechrau gwaith i ddymchwel hen feddygfa wag ym Mharc Lansbury, Caerffili.
Mae pecynnau o brofion llif unffordd bellach ar gael i drigolion eu casglu o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden dethol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae preswylwyr wedi symud i gartrefi newydd yn Llys yr Eglwys, Pontllan-fraith, sydd wedi’u hadeiladu ar safle hen Eglwys y Santes Fair.
Yn ddiweddar, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r argymhelliad bod y gorchmynion rheoleiddio traffig arbrofol ger tair ysgol gynradd yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu gwneud yn barhaol.
Fe wnaeth Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gwrdd â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon i drafod nifer o faterion allweddol.