Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi y bydd cyflwynwyr Capital South Wales, Josh a Kally, yn bresennol yn nigwyddiad Swyddi Gwag Byw eleni.
Mae’r Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd Caerffili yn gyffrous i gyflwyno Teclynwyr, sef Sialens Ddarllen yr Haf ar gyfer 2022.
Cynhaliwyd seremoni swyddogol i ddathlu ail-agor Ffordd Goedwig Cwmcarn heddiw (6 Gorffennaf) flwyddyn ers i’r Ffordd allu croesawu ymwelwyr mewn cerbydau am y tro cyntaf. Mae Ffordd Goedwig Cwmcarn yn un o ganolfannau darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio pecyn gwybodaeth fel rhan o brosiect ehangach i fynd i'r afael ag eiddo gwag.
Mae rhieni ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili nawr yn gallu gneud cais AR-LEIN am grant o £225 (ac eithrio blwyddyn 7, sef £300) tuag at wisg ysgol, gwisg chwaraeon, neu offer ar gyfer gweithgareddau eraill y tu allan i'r ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd busnesau i ddod i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig, a fydd yn cael ei gynnal am 5.30pm ddydd Mercher 13 Gorffennaf yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1AA.