News Centre

​Y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb yn cychwyn cael ei weithredu ym mis Medi

Postiwyd ar : 05 Medi 2022

​Y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb yn cychwyn cael ei weithredu ym mis Medi

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fin dechrau'n rhaddol ei gynllun prydau ysgol am ddim i bob disgybl dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 o 2 Medi, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i holl ddisgyblion Meithrin a Blwyddyn 2 amser llawn erbyn 7 Tachwedd 2022 er mwyn sicrhau bod timau arlwyo ysgolion yn gallu rheoli’r galw ychwanegol sydd arnyn nhw.

Bydd rhagor o wybodaeth am bryd y bydd grwpiau blwyddyn eraill yn cael prydau ysgol am ddim yn cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn y misoedd nesaf.

Dywedodd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Mewn ymateb i’r cynnydd presennol mewn costau byw, mae’r cynllun hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant ac i sicrhau bod pob disgybl ysgol gynradd yn cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Yn ogystal ag annog bwyta’n iach, bydd y cynllun hwn yn cynyddu’r ystod o fwyd y mae disgyblion yn ei bwyta, yn gwella sgiliau cymdeithasol a lles yn ystod amser bwyd, ac yn arwain at welliannau mewn ymddygiad a chyrhaeddiad.”

Ni fydd plant sydd eisoes yn cael prydau ysgol am ddim yn cael eu heffeithio gan y cynllun.

Mwy o wybodaeth am Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar ein gwefan.



Ymholiadau'r Cyfryngau