News Centre

Canolfan ar-lein i helpu trigolion i gael mynediad at gymorth a chyngor ar gostau byw

Postiwyd ar : 05 Medi 2022

Canolfan ar-lein i helpu trigolion i gael mynediad at gymorth a chyngor ar gostau byw

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynhyrchu cyfres o dudalennau gwe i helpu pobl leol i gael cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae’r Hwb Costau Byw ar-lein yn cynnwys gwybodaeth am grantiau i helpu gyda biliau tanwydd, cyngor ar leihau biliau, gwybodaeth am fudd-daliadau a beth i’w wneud mewn argyfwng, cymorth sydd ar gael i deuluoedd, ble i gael cymorth iechyd meddwl a dolenni i sefydliadau cymunedol ac elusennau sy’n gallu helpu. 

Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: 

Yn dilyn rhai blynyddoedd anodd i drigolion, mae'r argyfwng costau byw yn brawf arall o ba mor benderfynol yw ein cymunedau ni. 

Mae ein trigolion ni wedi dweud wrthon ni fod angen ein help ni arnyn nhw i oroesi yn ystod y gaeaf. Rydyn ni eisoes wedi rhoi rhai mesurau pwysig ar waith, ac wedi sicrhau nawr bod yr holl wybodaeth ddefnyddiol hon ar gael mewn un lle ar ein gwefan ni fel bod pawb sydd angen cymorth yn gwybod ble i ddod o hyd iddi.

Bydd ein staff ni'n eich cynorthwyo chi gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, yn penderfynu a ydych chi'n gymwys, ac yn eich cynorthwyo chi i gwblhau unrhyw geisiadau angenrheidiol.

Rwy’n eich sicrhau chi – ynghyd â chymorth eich awdurdod lleol chi, y byddwn ni'n goroesi hyn.”

Os na allwch chi fynychu un o'n sioeau teithiol neu os ydych chi'n ansicr ynghylch pa gymorth rydych chi'n gymwys i'w gael, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili drwy ffonio 01443 811490, neu drwy anfon e-bost at GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk

Tudalennau gwe Cefnogaeth a Chyngor am Gostau Byw and Amserlen Sioeau Teithiol.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau