News Centre

​Cyngor Bwrdeistref Siriol Caerffili angen eich help chi i ddelio â da byw crwydredig

Postiwyd ar : 09 Medi 2022

​Cyngor Bwrdeistref Siriol Caerffili angen eich help chi i ddelio â da byw crwydredig

Mae’r Cyngor yn derbyn nifer o cwynion ynglŷn â da byw (defaid yn bennaf) yn crwydro trwy’r pentrefi yng Nghwm Rhymni Uchaf ac yng Nghwm Darran.

Mae’r anifeiliaid yma yn achosi difrod i gerddi, parciau, mynwentydd a mannau cyhoeddus agored; ac yn peri risg difrifol i ddefnyddwyr y ffyrdd ac eraill pan maen nhw’n crwydro ar y briffordd.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda ffermwyr lleol, tirfeddianwyr a sefydliadau amrywiol i liniaru’r problemau. Yn ogystal â hyn, mae contractwr wedi’i gyflogi i gasglu a chorlannu anifeiliaid crwydredig ar ran y Cyngor.

Gallwch chi ein helpu ni drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi gwybod am unrhyw ddifrod neu fandaleiddio i ffensys, gatiau a waliau ar ebost crm@caerphilly.gov.uk neu drwy ffonio 01443 866571
  • Sicrhau bod pob gât yn cael ei chau ar ôl ei defnyddio i atal da byw rhag mynd i mewn i bentrefi
  • Peidio â bwydo neu annog da byw i mewn i’r dref/pentref mewn unrhyw ffordd. 

Dwedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, “Rydyn ni’n ymwybodol o’r pryder gan drigolion ynglŷn ag anifeiliaid crwydredig, ac yn gwneud popeth rydyn ni’n gallu i leihau’r broblem. Rydyn ni eisiau gwella’n hamgylchfyd a diogelu iechyd ein trigolion.

Mae neges gref wedi cael ei rhoi i dirfeddianwyr lleol, gan gynnwys ffermwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac amrywiaeth o Adrannau’r Cyngor, am gynnal a chadw llinellau ffens, gatiau a waliau. Helpwch ni i fynd i’r afael â hyn drwy roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw dda fyw crwydredig fel bod y camau priodol yn cael eu cymryd.”



Ymholiadau'r Cyfryngau