News Centre

Ffordd ar gau er mwyn uwchraddio'r rhwydwaith nwy yng Nghoed Duon

Postiwyd ar : 08 Medi 2022

Ffordd ar gau er mwyn uwchraddio'r rhwydwaith nwy yng Nghoed Duon
Heol Cefn, Coed Duon

Mae Wales & West Utilities yn gwneud cynnydd da yn y gwaith i uwchraddio'r rhwydwaith nwy yng Nghoed Duon.

Mae’r gwaith gwerth £150,000, a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Hydref, yn hanfodol i gadw’r nwy i lifo’n ddiogel ac yn ddibynadwy i gartrefi a busnesau lleol, gan gadw pobl yn gynnes am genedlaethau i ddod.

Fel rhan o gam diweddaraf y gwaith, mae Wales & West Utilities wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac, er mwyn osgoi digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio'n lleol, mae Wales & West Utilities wedi adolygu ei gynlluniau rheoli traffig. Bydd Cefn Road nawr yn cael ei gau fesul cam wrth i'r gwaith fynd rhagddo o'i chyffordd â'r Stryd Fawr tuag at y gyffordd â South View Road.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 12 Medi ac 16 Hydref a bydd mynediad i drigolion yn cael ei gynnal bob amser.

Bydd gwyriadau lleol yn cael eu harwyddo'n glir ac, yn rhan o hynny, bydd y gatiau, sydd fel arfer yn atal traffig rhag cael mynediad i'r Stryd Fawr a Cefn Road, ar agor drwy'r amser.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein gwaith ni, mae ein Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn barod i ateb eich galwad chi. Gallwch chi gysylltu â nhw ar radffôn 0800 912 2999 neu enquiries@wwutilities.co.uk

Fel arall, gallwch chi gysylltu â ni drwy Twitter @WWUtilities or Facebook.com/WWUtilities

 



Ymholiadau'r Cyfryngau