News Centre

Ysgol Gynradd Pantside yn darparu cynllun ‘Bwyd a Hwyl’ llwyddiannus

Postiwyd ar : 06 Medi 2022

Ysgol Gynradd Pantside yn darparu cynllun ‘Bwyd a Hwyl’ llwyddiannus
Rhaglen addysg mewn ysgolion yw Bwyd a Hwyl, sy’n darparu addysg am fwyd a maethiad, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iachus i blant yn ystod gwyliau’r haf.
 
Ers ei lansiad cychwynnol yn 2015, mae’r cynllun wedi datblygu i fod yn rhaglen genedlaethol, wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o Raglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP).
 
Cymerodd tua 60 o blant rhan yn y cynllun yn Ysgol Gynradd Pantside yn Nhrecelyn.
 
Dwedodd Samantha Harding, mam i ddau o blant a rhiant i un ferch a mynychodd, fod yr argyfwng costau byw yn meddwl bod pethau yn “fwy ac yn fwy tyn” yn ariannol gyda phob mis sy’n mynd heibio.
 
Mae hi nawr yn gweithio rhagor o oriau, sy’n golugu llai o oriau gyda’i theulu.
 
Mae’r cynllun Bwyd a Hwyl yn “cymorth ariannol enfawr”, dywedodd hi, gan ei fod yn cymryd i ffwrdd y pwysau o fwydo ei merch ddwywaith y diwrnod dros yr haf.
 
Dywedodd Ellie Sage, athrawes yn Ysgol Gynradd Pantside nad oedd ots ganddi hi ildio rhan o’i gwyliau i weithio ar y cynllun.
 
“Mae’n neis achos rydw i’n cael cwrdd a rhyngweithio gyda phlant na fydda i ddim o reidrwydd yn cael y cyfle hwnnw i weithio gyda nhw bob dydd,” ychwanegodd.
 
Dwedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl wedi cael ei dylunio i ddod â chanlyniadau positif i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan ac i’w teuluoedd, gan ddarparu cyfleoedd i gymdeithasu, dysgu a mwynhau prydau o fwyd blasus a maethlon.
 
“Mae’r cynllun yma yn darparu arweiniad ar fwyd a maethiad ar gyfer y teulu cyfan yn ogystal â’r rhyddhad ariannol i rieni.”


Ymholiadau'r Cyfryngau