News Centre

Cynghorau’n dod ynghyd i ddangos cefnogaeth yn Pride Cymru 2022

Postiwyd ar : 06 Medi 2022

Cynghorau’n dod ynghyd i ddangos cefnogaeth yn Pride Cymru 2022
Ymunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ag awdurdodau lleol cyfagos yn ne Cymru i ddangos cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ a chynorthwyo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
 
Ar 27 Awst 2022, cymerodd yr awdurdod ran yn nigwyddiad Pride Cymru, fel rhan o'r rhwydwaith 'Cynghorau Balch', sydd wedi ei ddylunio i alluogi cynghorau ledled y rhanbarth i gydweithio wrth hyrwyddo gwasanaethau a chynnig eu cefnogaeth.
 
Teithiodd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad gyda chydweithwyr o Rondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Powys, Casnewydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Torfaen a Blaenau Gwent.
 
Ymunodd staff, cynghorwyr a grwpiau cymunedol cysylltiedig â channoedd o bobl a orymdeithiodd gyda'i gilydd drwy strydoedd Caerdydd i ddangos ymrwymiad a chefnogaeth pob cyngor i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Roedd hi’n wych ymuno â gorymdaith Pride Cymru eto yng Nghaerdydd, ar ddigwyddiad a gafodd ei fynychu gan gymaint o bobl, unwaith eto. Fel aelod o Gynghorau Balch, byddwn ni’n parhau i ddod at ein gilydd i ddangos ein hymwrymiad  i gydraddoldeb ac amrywiaeth.”


Ymholiadau'r Cyfryngau