News Centre

Ymgynghoriad ar gyfer Cyfnewidfa Caerffili yn agor wrth i gysyniadau gael eu datgelu

Postiwyd ar : 27 Medi 2022

Ymgynghoriad ar gyfer Cyfnewidfa Caerffili yn agor wrth i gysyniadau gael eu datgelu
Mae cam nesaf yr ymgynghoriad ar gyfer cynnig cyffrous Cyfnewidfa Caerffili nawr yn fyw. Y cam hwn o'r ymgynghoriad yw'r cyfle cyntaf i weld delweddau gweledol o ddatblygiad posibl y prosiect.

Yn dilyn cyfnod ymgynghori cychwynnol defnyddiol, nod y cam nesaf o ddarganfod yw amlinellu'r syniadau posibl ar gyfer y gyfnewidfa arfaethedig. Mae trigolion nawr yn cael eich annog i ‘Dweud Eich Dweud’ a rhannu eich barn am y syniadau arfaethedig ar gyfer y prosiect cyffrous hwn.

Bydd y gyfnewidfa arfaethedig yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio i ac oddi wrth Gaerffili. Bydd yn cysylltu pobl yn ddiymdrech â threnau, bysiau, tacsis ac opsiynau teithio llesol. Bydd y broses ymgynghori ar agor am 4 wythnos.
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Mae prosiect Cyfnewidfa Caerffili yn un o nifer o ddatblygiadau cyffrous sy’n llunio prif gynllun Caerffili 2035 – ein glasbrint i drawsnewid Canol Tref Caerffili.

“Datgelodd y broses ymgynghori gychwynnol fewnwelediad hollbwysig i dîm y prosiect ac rydyn ni nawr ar gam lle mae syniadau cychwynnol ar gyfer y prosiect yn gallu cael eu datgelu.

“Mae cam nesaf yr ymgynghoriad yn caniatáu i drigolion rannu eu barn am y syniadau hyn i’n helpu ni i ddatblygu cyfnewidfa sy’n diwallu anghenion trigolion Caerffili.

“Rydw i wir yn eich annog chi gymryd yr amser i weld y syniadau hyn a dweud eich dweud.”
 
Fel rhan o'r broses ymgynghori, bydd nifer o sesiynau ymgysylltu i roi cymorth i gwblhau'r arolwg. Bydd staff ar gael:
 
  • Dydd Gwener 30 Medi – Gorsaf Fysiau – 8.30-10.00am
  • Dydd Llun 3 Hydref – Llyfrgell – 11.00am – 12.30pm
  • Dydd Iau 6 Hydref – Coffi Vista – 1.00 – 2.30pm
  • Dydd Mercher 12 Hydref – Gorsaf Fysiau – 3.00 – 4.30pm
  • Dydd Gwener 14 Hydref – Llyfrgell – 9.30 -11.00am
  • Dydd Mercher 19 Hydref – Coffi Vista – 2.00-3.30pm
Ar gyfer preswylwyr sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad, cysylltwch â ni ar 07933174352 neu ymgynghori@caerffili.gov.uk.

I gwblhau'r arolwg neu i ddarganfod rhagor, ewch i https://caerphillyinterchange.commonplace.is/


Ymholiadau'r Cyfryngau