News Centre

Dosbarthiadau Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol i lansio ym mis Medi

Postiwyd ar : 05 Medi 2022

Dosbarthiadau Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol i lansio ym mis Medi
Fel rhan o raglen Gofalu am Gaerffili i daclo tlodi bwyd ac ansicrwydd, bydd prosiect hyrwyddwyr coginio yn cael ei lansio heddiw yn Nhŷ Penallta.
 
Fel rhan o’r lansiad, mae’r Cynghorydd Sean Morgan (Arweinydd Cyngor Caerffili), y Cynghorydd Carol Andrews (Aelod Cabinet dros Gymunedau), Hyrwyddwyr Cymunedol Morrisons a staff arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn hyrwyddo’r Prosiect Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol, gyda dosbarthiadau yn dechrau yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn yn Nhredegar Newydd, 20 Medi.
 
Bydd y sesiynau yn cael eu cyflwyno gan wirfoddolwyr o staff arlwyo’r Cyngor fel rhan o’n cynllun gwirfoddoli corfforaethol.
 
Mae’r fenter yn cael ei chefnogi gan siopau Morrisons yn yr ardal, fel rhan o’u hymrwymiad i helpu lleihau tlodi bwyd ac ansicrwydd.
 
Bydd Hyrwyddwyr Cymunedol Morrisons o Dŷ-du, Bargod a Chaerffili yn cefnogi’r prosiect ac yn cyflenwi’r cynhwysion trwy gydol y cwrs.
 
Nod y cwrs yw dysgu trigolion sut i goginio a rhoi cardiau ryseitiau iddyn nhw a fydd yn helpu eu hannog i goginio ar ôl i’r cwrs orffen.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Gymunedau, “Fy ngobaith i yw bod y sesiynau hyn yn gallu sicrhau bod gan bawb yn y Fwrdeistref Sirol y cyfle, y gallu a’r hyder i gael mynediad at ddeiet iach a’i baratoi ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd.
 
“Gobeithio, mae beth bynnag sy’n cael ei ddysgu yn y sesiynau hyn yn cael ei rannu a’i drosglwyddo i eraill yng nghymunedau pob unigolyn.”
 
Os oes diddordeb gennych chi mewn gwneud cais ar gyfer y sesiynau hyn, cysylltwch â Sharon Peters drwy e-bost: peters@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau