News Centre

Gŵyl y Caws Bach, Caerffili, yn llwyddiant ysgubol

Postiwyd ar : 21 Medi 2022

Gŵyl y Caws Bach, Caerffili, yn llwyddiant ysgubol
Daeth Gŵyl y Caws Bach i ganol tref Caerffili ar 3 a 4 Medi, ac fe groesawodd nifer syfrdanol o ymwelwyr; 33,000 yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell a thros 10,000 o bobl yng nghanol y dref.
 
Ni fu modd cynnal Gŵyl y Caws Mawr eleni oherwydd y gwaith datblygu a oedd yn digwydd yng Nghastell Caerffili, ond fe wnaeth yr hwyl barhau gydag adloniant i ddifyrru pawb. Cafodd tair ardal gerddoriaeth fyw eu cynnal yn ystod y digwyddiad, ynghyd â phrif lwyfan ym Maes Parcio’r Twyn, gan ddod â bywyd newydd i'r dref am y penwythnos.
 
Roedd amrywiaeth o stondinau bwyd, diod a chrefft yn bresennol, yn ogystal â'r marchnadoedd sy'n cael eu cynnal yn y dref bob tri mis. Ymunodd yr holl farchnadoedd â’r ŵyl i greu canol tref prysur, a oedd yn bleser i’w weld ar ôl y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Agorodd llawer o fusnesau lleol eu drysau a chreu mannau eistedd awyr agored i groesawu ymwelwyr a’u galluogi i ymlacio a mwynhau’r awyrgylch.
 
Roedd digwyddiad y Caws Bach eleni yn gyfle gwych i fusnesau bach a lleol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili arddangos eu doniau a’u gwasanaethau, a bu pob un ohonyn nhw'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.
 
Clywch beth oedd gan fusnesau lleol i’w ddweud am y digwyddiad:

Dywedodd Glenn, Cyfarwyddwr Grŵp Brew Monster, “Dyma’r digwyddiad cyntaf i ni ei fynychu yng Nghaerffili ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Cawson ni amser gwych yn rhan o'r digwyddiad ac fe wnaethon ni gwrdd â llawer o gwsmeriaid hapus. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â chyflenwyr lleol eraill ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar brosiectau newydd cyffrous yn y dyfodol agos. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant, nid yn unig o ran cael marchnadoedd ym maes parcio’r Twyn, ond hefyd oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn y dref ac wrth amlygu'r brand yn y digwyddiad, a olygodd fod ein bar bragdy wedi cael un o’i ddyddiau prysuraf ers agor. Gwell fyth oedd nad oedd llawer o’r ymwelwyr a ddaeth i'r bar bragdy wedi ymweld o’r blaen, sy’n golygu bod gennym ni bellach lawer o gwsmeriaid newydd rydyn ni'n gobeithio bydd yn dychwelyd eto yn y dyfodol.”
 
Dywedodd Calvin Evans o’r AVIARY, “Roedden ni mor falch o fod yn rhan o Ŵyl y Caws Bach cyntaf yng Nghaerffili, ac am lwyddiant!! Gyda’n bar ar y stryd fawr yn ymestyn ein man eistedd awyr agored am y penwythnos, fe helpodd hynny ni i ddarparu'r seddi perffaith i’r cyhoedd ar bwys Llwyfan y Foneddiges Werdd, a oedd wedi'i leoli'r tu allan. Roedd yr artistiaid byw trwy gydol y penwythnos yn rhagorol, fe ddaeth â'r dref yn fyw o ddifrif. Roedd yn wych gweld yr holl fusnesau a masnachwyr lleol ac o bell i gyd gyda’i gilydd yn gweithio ar y cyd.”
 
Ychwanegodd, “Gofynnodd y tîm digwyddiadau yn garedig i ni a oedd ein blwch ceffylau symudol ar gael i’w leoli ger y Prif Lwyfan, ac roedd hynny'n gyfle na allem ni ei wrthod! Roedd bod reit ar bwys y prif lwyfan gyda bandiau anhygoel yn brofiad gwych i ni. Nid yn unig y bu Gŵyl y Caws Bach eleni'n llwyddiant mawr i’r busnes ar ôl y ddwy flynedd ofnadwy ddiwethaf, fe wnaeth galonogi ein tîm a chodi ysbryd Caerffili. Golygfa hyfryd oedd gweld pobl yn jeifio, chwerthin, ac yfed gyda ffrindiau a theulu. Bydden ni wrth ein boddau'n gweld y Caws Bach yn dychwelyd i'r dref y flwyddyn nesaf! Da iawn i bawb a oedd yn rhan ohoni, am benwythnos gwych i’r dref.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Rydw i’n falch iawn o’r ymateb i Ŵyl y Caws Bach eleni. Roedd yn wych gweld cymaint o ymwelwyr a thrigolion o gwmpas ac yn mwynhau eu hunain ar ôl rhai blynyddoedd o gael eu cyfyngu oherwydd COVID-19. Roedd yn benwythnos ardderchog, gydag adborth rhagorol gan fusnesau lleol. Roedd y perfformiadau cerddorol yn grêt, ac roedd y naws gyffredinol yn wych. Hoffwn i ddiolch i’r gymuned fusnes am weithio mor dda gyda ni dros yr wythnosau diwethaf. Bydd mwy o ddigwyddiadau yn dod i’r Fwrdeistref Sirol yn y misoedd nesaf”.
 
Dros y misoedd nesaf, byddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref i gynllunio rhaglen gyffrous ar gyfer digwyddiadau’r Gaeaf. Byddwn ni'n postio gwybodaeth ar ein gwefan ac yng nghanol trefi lleol, cadwch lygad yn agored.


Ymholiadau'r Cyfryngau