News Centre

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig noddfa i geiswyr lloches

Postiwyd ar : 08 Medi 2022

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig noddfa i geiswyr lloches
Dros y 12 mis diwethaf, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynnig noddfa i bobl sy'n dianc rhag gwrthdaro ac erledigaeth, yn ôl casgliadau adroddiad diweddar.
 
Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar yr adroddiad adolygu yn ystod ei gyfarfod a gafodd ei gynnal ar 7 Medi.  Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch mewn perthynas â lleoli ceiswyr lloches flwyddyn ar ôl i Gaerffili ddod yn Ardal Lleoli Ceiswyr Lloches gymeradwy ac roedd hefyd yn rhoi diweddariad ar adsefydlu grwpiau eraill sydd wedi'u dadleoli.
 
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â darparwr y Swyddfa Gartref, Clearsprings, i sicrhau dau eiddo i deuluoedd yn y sector preifat ar gyfer ceiswyr lloches. Rhoddodd yr adroddiad wybod i aelodau'r Cabinet bod un teulu wedi symud ymlaen i lety mwy cynaliadwy ers hynny, gan alluogi Clearsprings i ddefnyddio’r eiddo i ailgartrefu teulu arall. Mae'r Cyngor hefyd wedi cynorthwyo teuluoedd agored i niwed a gafodd eu symud o Kabul fel rhan o gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan. 
 
Yn ogystal, mae 73 o wladolion Wcráin yn byw yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Maen nhw wedi'u cartrefu gyda gwesteiwyr lleol drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin a’u cynorthwyo drwy Gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.
 
Canfu'r adroddiad fod y niferoedd sy'n cyrraedd yn integreiddio'n dda, diolch i gymorth a gafodd ei ddarparu gan staff ymroddedig y Cyngor ar gyfer y gwesteiwyr a'r rhai sydd wedi cyrraedd o Wcráin.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae gennym ni hanes hir o helpu ac adsefydlu ffoaduriaid yng Nghaerffili, ac rydyn ni'n falch o barhau i ddarparu noddfa i'r rhai sy'n dianc rhag erchyllterau rhyfel ac erledigaeth.
 
“Hoffwn i ddiolch i’r gwesteiwyr sydd wedi gwirfoddoli i agor eu cartrefi i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng dyngarol presennol yn Wcráin ac i staff y Cyngor sydd wedi rhoi o’u hamser i groesawu’r rhai sy’n cyrraedd y Fwrdeistref Sirol.”
 

 


Ymholiadau'r Cyfryngau