News Centre

Arweinydd yn croesawu Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol

Postiwyd ar : 08 Medi 2021

Arweinydd yn croesawu Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Heddlu Gwent y bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol ar waith yn strydoedd y Fwrdeistref Sirol.

Yn ôl Heddlu Gwent, bydd 20 Swyddog Cymorth Cymunedol ychwanegol yn cael eu recriwtio yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y swyddogion hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, a byddan nhw'n ymuno â'r timau plismona yn y gymdogaeth ac yn gweithio wrth galon cymunedau ledled ardal Heddlu Gwent.

“Rydyn ni'n croesawu'r newyddion y bydd rhagor o swyddogion mewn lifrai i'w gweld yn ein cymunedau,” meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, “Bydd y Swyddogion Cymorth Cymunedol hyn yn helpu gwneud ein strydoedd yn fwy diogel ac yn rhoi rhagor o dawelwch meddwl i bobl leol. Rwy'n edrych ymlaen at barhau ein perthynas waith gadarnhaol gyda'n cydweithwyr yn Heddlu Gwent i dargedu troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i ddiogelu ein pobl a'n lleoedd.”

Meddai'r Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn rhan allweddol o'r teulu plismona ac maen nhw'n gwneud cyfraniad enfawr yn tawelu meddwl cymunedau lleol ac atal trosedd. Bydd y swyddogion hyn yn amlwg iawn ac ar y rheng flaen, yn mynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i'n trigolion.
“Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad parhaus i gefnogi'r maes plismona hwn.”

Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Swyddogion Cymorth Cymunedol yw'r cyswllt rhwng yr heddlu a'n cymunedau, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu cymunedau mwy cydlynus ledled Gwent. Nid yw'n swydd hawdd ac mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Rwy'n croesawu'r gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dangos sut mae gwaith partner yng Nghymru'n gallu bod o fudd uniongyrchol i'n cymunedau.

“Bydd y swyddogion newydd hyn yn ychwanegiad derbyniol iawn i Heddlu Gwent ac yn gaffaeliad mawr i'n cymunedau.”

Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb yn y swyddi hyn, gallwch chi wneud hynny yma. Dylai'r broses recriwtio fod wedi gorffen erbyn mis Ionawr 2022.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau