News Centre

Bryn Hafodyrynys – Diweddariad

Postiwyd ar : 10 Medi 2021

Bryn Hafodyrynys – Diweddariad

Mae'r contract ar gyfer dymchwel eiddo ar Fryn Hafodyrynys (Woodside Terrace) bellach wedi'i ddyfarnu i Walters, sy'n anelu at ddechrau'r gwaith ar y safle ar 20 Medi.

I ddechrau, bydd y cynllun yn cynnwys gwaith paratoi, cyn i'r gwaith o ddymchwel yr adeiladau ddechrau. Yn ôl yr amserlen ar hyn o bryd, bydd y gwaith dymchwel yn cychwyn ganol mis Hydref (yr union ddyddiadau i'w cadarnhau).

Cyn i Walters gychwyn ar y safle, bydd Wales and West Utilities yn datgysylltu'r cyflenwad nwy i'r eiddo. Gan fod y bibell nwy o dan y droedffordd, bydd angen i Wales and West Utilities gau lôn ar Fryn Hafodyrynys, a defnyddio goleuadau traffig ar yr A472, er mwyn sicrhau diogelwch eu gweithwyr ac i ddarparu cyswllt troedffordd parhaus i gerddwyr.

Bydd y goleuadau traffig ar waith rhwng 09:30 a 15:00. Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r gwaith hwn bara am bythefnos gan ddechrau ddydd Llun 13 Medi.

Rydyn ni'n rhagweld tagfeydd traffig wrth y safle, felly, mae modurwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio llwybrau amgen os yn bosibl. Bydd angen cyfyngiadau traffig pellach yn ystod cyfnod y contract a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law. Hoffem ni ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae'r gwaith anochel hwn yn ei achosi.

Bydd llythyrau yn cael eu dosbarthu i breswylwyr sy'n byw gyferbyn â'r safle gwaith, gan ddarparu manylion am y cynllun a manylion cyswllt perthnasol yr asiantaethau dan sylw.

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi diweddariadau pellach dros yr wythnosau nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd.



Ymholiadau'r Cyfryngau