Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2021
Torfeydd yn ymgynnull i ddathlu ein harwyr Olympaidd
News Centre
Torfeydd yn ymgynnull i ddathlu ein harwyr Olympaidd
Postiwyd ar : 03 Medi 2021
Ymgasglodd tyrfaoedd yng nghanol tref Ystrad Mynach a chanol tref Coed Duon heddiw i ddathlu llwyddiannau'r Olympiaid lleol Laure Price a Lauren Williams.
Dechreuodd y dathliadau yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon am 10am lle cafodd yr athletwyr eu cydnabod yn ystod seremoni ffurfiol gydag areithiau gan Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden; Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden a Brian Davies, Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru.
Daeth y seremoni i ben gyda chyflwyno'r ffotograffau ar gyfer y Wal Enwogion Chwaraeon a fydd yn hongian yn falch yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon fel y ffotograffau cyntaf ar gyfer y wal.
Yn syth ar ôl y seremoni, roedd taith car pen agored o amgylch tref enedigol Lauren Price, Ystrad Mynach, cartref y blwch post aur enwog, ac yna tref enedigol Lauren Williams, Coed Duon, lle casglodd torfeydd wrth ymyl y Stryd Fawr yn chwifio baneri i ddangos eu cefnogaeth.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden, "Rwy'n falch dros ben bod ein merched lleol wedi cyflawni rhywbeth mor arbennig. Mae’r daith hon yn deyrnged addas iawn i’w cyflawniadau ac roedd yn wych gweld cymaint o drigolion yn ymgasglu i ddangos pa mor falch y maen nhw'n teimlo. Fel y cyhoeddais i o'r blaen, mae cynlluniau ar y gweill i greu cyflwyniad i'r Cyngor llawn i gydnabod y cyflawniadau hyn yn ffurfiol. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Unwaith eto, llongyfarchiadau enfawr i'r athletwyr talentog hyn o bawb yn Nhîm Caerffili."
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ac Aelod o’r Senedd, Dawn Bowden, “Llongyfarchiadau enfawr i athletwyr Olympaidd Caerffili a Chymru ac i weddill tîm Prydain Fawr. Mae’r perfformiadau yn Tokyo wedi gwneud pob un ohonom ni yn falch ac rwy’n falch iawn o ddod i’r dathliad hwn yng Nghaerffili heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd cyflawniadau Olympaidd a Pharalympaidd Cymru yn Tokyo yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr.”
Dywedodd Lauren Price, “Mae wedi bod yn gwpl o wythnosau brysiog ac rydw i wedi mwynhau bob eiliad. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymdrech y mae pawb wedi’i wneud i wneud heddiw mor arbennig.”
Ychwanegodd Lauren Williams, “Mae gwneud hyn gyda Lauren yn braf iawn gan ein bod ni wedi adnabod ein gilydd ers blynyddoedd. Ni allwn i gredu'r torfeydd a daeth allan i ddangos eu cefnogaeth. Rwyf wedi fy synnu'n fawr ac roedd yn brofiad cofiadwy!”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y