News Centre

Y Cyngor yn cefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Postiwyd ar : 09 Medi 2021

Y Cyngor yn cefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Diwrnod y Gwasanaethau Brys ar 9 Medi i dalu teyrnged i'r miliynau o bobl sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli ar draws y GIG a'r gwasanaethau brys.

Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys, yn annog pobl i'w defnyddio nhw'n gyfrifol ac yn addysgu'r cyhoedd ynglŷn â sgiliau achub bywyd sylfaenol. Hefyd, mae'n hyrwyddo'r cyfleoedd niferus o ran gyrfa a gwirfoddoli sydd ar gael drwy'r gwasanaethau brys.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys wrth i ni ddangos ein gwerthfawrogiad am y GIG a'n holl wasanaethau brys!

“Dros y deunaw mis diwethaf rydyn ni wedi gweld ein gwasanaethau brys yn mentro i helpu diogelu ein pobl a chymunedau. Maen nhw wedi dangos cryfder, cydnerthedd a dewrder anhygoel, a hoffwn ni ddefnyddio'r foment hon i ddangos ein gwerthfawrogiad a dweud diolch am bopeth maen nhw wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, i sicrhau ein hiechyd a diogelwch.

“Rwy'n annog pawb i oedi a meddwl am 9am ar fore Iau 9 Medi a dangos eich gwerthfawrogiad sut bynnag y gallwch chi.

“Byddwn ni'n rhannu ein negeseuon o ddiolch trwy gydol y dydd ar ein tudalennau Twitter a Facebook, felly ymunwch â ni a dangos eich gwerthfawrogiad tuag at y rhai sy'n haeddu cydnabyddiaeth ar Ddiwrnod y Gwasanaethau Brys.”



Ymholiadau'r Cyfryngau