News Centre

​Arweinydd y Cyngor yn egluro'r sefyllfa ynghylch pryderon am safle gwastraff

Postiwyd ar : 09 Medi 2021

​Arweinydd y Cyngor yn egluro'r sefyllfa ynghylch pryderon am safle gwastraff
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden,

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i bryderon cyfredol ynghylch cyfleuster prosesu gwastraff arfaethedig yn Ystâd Ddiwydiannol Nine Mile Point, yng Nghwmfelin-fach.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden,

“Bydd trigolion yng Nghwm Sirhywi a'r cyffiniau yn ymwybodol iawn o'r pryderon cyfredol ynghylch cynigion ar gyfer gwaith prosesu gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Nine Mile Point. Mae'r mater wedi bod yn destun achos cyfreithiol cyfredol dros y misoedd diwethaf a, gan fod yr achos bellach yn dod i ben, rwy'n teimlo y gallaf nawr gynnig fy marn ar y mater. 

“A minnau'n Arweinydd y Cyngor a chynghorydd lleol ar gyfer y ward lle byddai'r datblygiad arfaethedig hwn wedi'i leoli, gallwch chi werthfawrogi fy mod i mewn sefyllfa anodd iawn.

“Rwyf, wrth gwrs, yn ymroddedig i gefnogi fy etholwyr ac rwy'n deall yn llwyr y pryderon gwirioneddol a'r gwrthwynebiad cryf i'r cyfleuster arfaethedig yn y gymuned, ond, ar yr un pryd, mae'n rhaid i mi fod yn deg ac yn ddiduedd er mwyn caniatáu dilyn y broses briodol.

“Rhaid i mi bwysleisio hefyd fod hwn yn fater hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i gyfnod cyn i mi fod yn Arweinydd y Cyngor – ac yn wir cyn i mi fod yn gynghorydd lleol.

“Mae dadleuon technegol a chyfreithiol cymhleth ynghylch y datblygiad hwn sydd wedi cael eu hystyried yn y llys yn ystod y cais aflwyddiannus am adolygiad barnwrol. 

“Mae'n bryd nawr i symud ymlaen a gwella'r rhaniadau yn y gymuned. Rwyf am roi sicrwydd i drigolion y bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r ymgeisydd ac asiantaethau eraill i sicrhau bod y datblygiad arfaethedig yn parhau i gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth briodol i leihau unrhyw effeithiau ar y gymuned gyfagos. 

“Byddaf yn gofyn i uwch reolwyr Hywel NMP ddarparu manylion eu cynlluniau i ymgysylltu â'r gymuned wrth symud ymlaen. Hoffwn i weld grŵp cyswllt trigolion yn cael ei sefydlu gan ei bod yn hanfodol bod ymgysylltu â'r gymuned yn rhan allweddol o'u strategaeth. Mae angen i fecanweithiau fod ar waith i geisio adborth ac ymateb i bryderon a chwestiynau am y datblygiad yn y dyfodol.” 

Cyhoeddwyd y datganiad ar ôl i'r achos cyfreithiol ddod i ben, a gychwynnwyd gan grŵp o wrthwynebwyr lleol. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn awyddus i egluro'r sefyllfa ynghylch nifer o honiadau anghywir a chamarweiniol sydd ar led yn y gymuned. 

Bu cyhuddiadau o anonestrwydd ac amhriodoldeb o fewn y Cyngor, yn ogystal â honiadau bod y datblygiad yn anghyfreithlon. Mae'r rhain i gyd yn ddi-sail a byddai'r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â thystiolaeth i ategu honiadau o'r fath i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol er mwyn ymchwilio ymhellach iddyn nhw. 

Bellach mae cyfnod apelio 21 diwrnod o hyd yn dilyn y dyfarniad ar 2 Medi a bydd y Cyngor yn aros am y canlyniad cyn ystyried y camau nesaf.



Ymholiadau'r Cyfryngau