News Centre

Datblygiad tai cyngor newydd yn cael ei hystyried ar hen safle ysgol Oakdale

Postiwyd ar : 08 Medi 2021

Datblygiad tai cyngor newydd yn cael ei hystyried ar hen safle ysgol Oakdale
Cllr Lisa Phipps, Cllr Philippa Marsden, Chris Boardman (CCBC), Cllr Roy Saralis & Mark Noakes (CCBC) at the former school site.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystyried opsiynau i ddatblygu datblygiad tai deiliadaeth gymysg arloesol ar hen safle Ysgol Gyfun Oakdale. 
 
Mae ymchwiliadau safle ar y gweill ar hyn o bryd i asesu addasrwydd y safle ar gyfer datblygiad tai.  Pe bai'n llwyddiannus, y datblygiad fyddai'r cyntaf o'i fath i'r Cyngor wrth gynnig gwerthiannau marchnad agored, ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol. 
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Mae hwn yn gyfle anhygoel o gyffrous i’r Cyngor ddatblygu’r tir hwn sydd heb ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn datblygiad tai blaenllaw;  y cyntaf o'i fath i'r Cyngor a rhan o'n rhaglen ehangach o adeiladu tai newydd ledled y Fwrdeistref Sirol.” 
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â helpu ateb y galw cynyddol am dai, bydd y datblygiad hwn hefyd yn cynnig cartrefi fforddiadwy sy'n galluogi prynwyr tro cyntaf i brynu tŷ mewn ardal ddymunol iawn o'r Fwrdeistref Sirol.”
 
Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth gyson i drigolion a'r gymuned leol wrth i'r cynlluniau ar gyfer y safle fynd rhagddo.


Ymholiadau'r Cyfryngau