News Centre

Arweinydd yn cyhoeddi estyniad i parcio am ddim

Postiwyd ar : 02 Medi 2021

Arweinydd yn cyhoeddi estyniad i parcio am ddim
Cefnogodd Cabinet Cyngor Caerffili yn unfrydol y cynnig i ymestyn parcio am ddim am 12 mis arall tan 30 Medi 2022, i gynorthwyo’r adferiad economaidd.
 
Cafodd taliadau meysydd parcio eu stopio mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol ym mis Mehefin 2020, penderfyniad a gafodd ei wneud gan bwerau dirprwyedig. Yn ystod y misoedd a ddilynodd, mae'r Cabinet wedi cefnogi nifer o gynigion i barhau gyda'r parcio am ddim.
 
Tynnodd yr adroddiad, a gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd James Pritchard, sylw at y broses gyffredinol o wneud penderfyniadau y mae angen ei hystyried wrth symud ymlaen, gan gynnwys goblygiadau ariannol colli incwm.  Cytunodd y Cabinet y bydd y diffyg incwm amcangyfrifedig o £660k yn cael ei ariannu o Gronfa Wrth Gefn COVID-19 sydd wedi cael ei gymeradwyo yn flaenorol. Bydd tocynnau tymor yn cael eu canslo trwy gydol yr estyniad.
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Mae’n bwysig ein bod ni'n parhau i wneud pob ymdrech i annog pobl i ‘siopa’n lleol’ a chefnogi adferiad economaidd ein trefi ni, ac rwy’n teimlo bod ymestyn y parcio am ddim yn ffactor allweddol wrth wneud hynny.
 
Parhaodd, "Mae'r adroddiad wedi amlinellu rhai ystyriaethau pwysig wrth symud ymlaen, a bydd yr holl bwyntiau hyn yn rhan bwysig o'r broses benderfynu, un a fydd yn gofyn am grŵp gorchwyl a gorffen trawsbleidiol y Cydbwyllgor Craffu. Bydd y grŵp hwn, fel rhan o'r adolygiad hwn, yn ceisio ac yn ystyried barn rhanddeiliaid allweddol, i gynnal adolygiad pellach o daliadau parcio ceir yng nghanol y dref yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau i gryfhau ein trefi ni ac annog pobl ymhellach i barhau i gefnogi busnesau lleol, sydd wedi bod yn werth y byd i'r gymuned yn ystod anterth y cyfyngiadau symud.”
 
Am ragor o wybodaeth am yr adroddiad llawn, ewch; democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s36550/Car%20Parking%20Charges.pdf?LLL=0


Ymholiadau'r Cyfryngau