News Centre

Cronfa ymrymuso cymunedau ar agor!

Postiwyd ar : 01 Medi 2021

Cronfa ymrymuso cymunedau ar agor!
Heddiw (dydd Mercher 1 Medi), mae cronfa newydd sbon, sy'n ceisio grymuso cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatblygu prosiectau er budd eu hardal leol, wedi agor ac yn croesawu ceisiadau.
 
Mae Cronfa Ymrymuso'r Gymuned yn cael ei chynnal gan y Cyngor, ac mae hi werth £328,000 y flwyddyn. Mae'n galluogi cymunedau i ddatblygu a chyflawni prosiectau, gyda'r nod o ddiwallu anghenion eu trigolion.
 
Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Mae Cronfa Ymrymuso'r Gymuned yn un newydd sbon sydd wedi dwyn ffrwyth o ganlyniad i adborth gan drigolion yn ein harolwg ‘Trafodaeth Caerffili’ yn gynharach eleni. Yn yr arolwg hwnnw, meddai 78% o'r ymatebwyr eu bod nhw o'r farn mai awgrym cadarnhaol oedd sicrhau bod cyllideb gymunedol ar gael i drigolion, er mwyn eu galluogi nhw i wneud rhagor o bethau er budd eu cymunedau.
 
“Rydyn ni wedi gwrando ac, mewn ymateb uniongyrchol i'r adborth, wedi sefydlu Cronfa Ymrymuso'r Gymuned i roi cymorth i fentrau dan arweiniad y gymuned sy'n cydweddu a chefnogi'r rhai sy'n cael eu darparu trwy wasanaethau cyhoeddus.”
 
Mae'r swm o £328,000 wedi'i ddyrannu er mwyn sicrhau bod pob un o 33 ardal ward y Cyngor yn gallu elwa ar gyllid trwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned ar gyfer prosiectau cymunedol lleol. Bydd prosiectau'n anelu at gefnogi cymunedau er mwyn:
 
  • Adeiladu capasiti cymunedol, a deall ac adnabod dyheadau a blaenoriaethau lleol yn well
  • Gwneud defnydd da o'r asedau presennol, gyda phrosiectau'n cael cefnogaeth trigolion lleol
  • Datblygu prosiectau a allai ddod yn brosiectau cymunedol cynaliadwy, ac ategu gwasanaethau presennol mewn ardal trwy ddarparu gweithgaredd ychwanegol
 
Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Drawsnewid, “Sbardun allweddol ein rhaglen drawsnewid uchelgeisiol yw ymgysylltu â'r gymuned, trwy fynd ati i alluogi ein trigolion i lywio meysydd sydd o bwys iddyn nhw yn uniongyrchol. Bydd y gronfa hon yn galluogi cymunedau i wneud hynny.
 
“Mae gan ein haelodau etholedig rôl allweddol hefyd drwy weithredu fel ‘noddwyr’ ar gyfer prosiectau sy'n gwneud cais am gyllid drwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned; byddan nhw'n gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, ac yn eu helpu nhw, i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau sy'n diwallu angen dynodedig yn y ward. Mae hwn yn gyfle go iawn i wneud mwy fyth o waith partneriaeth rhwng y Cyngor a'n cymunedau ni, ac rwy'n sicr y bydd pawb dan sylw yn croesawu'r gronfa hon.”
 
Wrth gyfrifo dyraniadau, mae'r swm o £328,000 wedi'i rannu â 73 (sef nifer y cynrychiolwyr etholedig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili), sy'n golygu dyraniad sy'n cyfateb i £4,490 fesul aelod etholedig y flwyddyn. Mewn wardiau lle mae mwy nag un aelod etholedig, mae'r dyraniad wedi'i luosi yn ôl nifer yr aelodau. Er enghraifft – mae gan ward Pen-yr-heol bedwar cynrychiolydd etholedig, felly, byddai ward Pen-yr-heol yn elwa ar ddyraniad o £17,960 (£4,490 x 4).
 
Yn dilyn adborth gan drigolion, mae wyth maes blaenoriaeth yn sail i'r meini prawf ymgeisio ar gyfer prosiectau. Rhaid i brosiectau sy'n gwneud cais am gyllid trwy Gronfa Ymrymuso'r Gymuned fodloni un neu ragor o'r canlynol:
 
  • Prosiectau amgylcheddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a chynyddu gweithgaredd cymunedol
  • Prosiectau sy'n cefnogi rhagor o gydlyniant cymunedol
  • Prosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig ar draws y gymuned
  • Prosiectau cynhwysiant digidol
  • Prosiectau i annog mwy o les corfforol a meddyliol
  • Gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc/gweithgareddau addysgol (anstatudol)
  • Mentrau sy'n hyrwyddo ac yn annog diogelwch y gymuned
  • Cefnogi grwpiau cymunedol i sefydlu
 
Beth nesaf?
 
Dylai grwpiau cymunedol sydd â syniad am brosiect gysylltu â'u haelod etholedig lleol yn y lle cyntaf. Mae rhestr lawn ar gael yma. Mae ffurflen gais fer i'w llenwi i amlinellu manylion y prosiect, a dylai gael ei hanfon i CYG@caerffili.gov.uk. Mae'r cylch cyntaf o geisiadau am gyllid yn cau ar 31 Hydref 2021.
 
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ymrymuso'r Gymuned, cysylltwch â CYG@caerffili.gov.uk neu fynd i www.caerffili.gov.uk/cyg


Ymholiadau'r Cyfryngau