News Centre

Y Cyngor yn datgelu cynlluniau i ailagor adeiladau

Postiwyd ar : 01 Medi 2021

Y Cyngor yn datgelu cynlluniau i ailagor adeiladau
Heddiw (1 Medi), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu cynlluniau i ddechrau ailagor ei adeiladau.

Mae'n debyg mai ei bencadlys yn Nhŷ Penallta fydd y cyntaf i agor ei ddrysau i aelodau'r cyhoedd ym mis Medi, wrth i asesiadau gael eu cynnal yn yr adeiladau sy'n weddill ac wrth i adroddiad pellach gael ei ystyried gan y Cabinet ar 29 Medi.

Mae'r cynlluniau'n cael eu cynnal yn unol â'r symud i Lefel Rhybudd Sero yng Nghymru a chanllawiau cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru.

Ers dechrau'r pandemig, mae'r Cyngor wedi parhau i ddarparu gwasanaethau critigol o leoliadau fel cartrefi preswyl. Yn ddiweddar, ail-agorodd pob llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol gan gynnig ystod o wasanaethau newydd, gan gynnwys systemau clicio a chasglu ac apwyntiadau. 

Mae gwasanaethau eraill wedi parhau i gael eu darparu i drigolion o bell.  Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gan y Cyngor i ddatblygu systemau gweithio ystwyth sy'n diwallu anghenion staff a thrigolion, gan barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Colin Gordon, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol y Cyngor, “Mae'r Cyngor wedi defnyddio ffyrdd newydd ac arloesol drwy'r pandemig i sicrhau bod gwasanaethau wedi parhau i gael eu darparu i'n trigolion, fel ein menter prydau ysgol am ddim sydd wedi ennill gwobrau.

Rydyn ni'n deall, fodd bynnag, fod cael mynediad corfforol i'n hadeiladau yn bwysig i lawer.  Bydd y cynlluniau a’r prosesau sydd wedi cael eu cymeradwyo heddiw nawr yn ein galluogi ni i gynnal asesiadau trylwyr a sicrhau bod y mesurau cywir ar waith i sicrhau ein bod ni'n gallu ailagor ein hadeiladau wrth sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr.”


Ymholiadau'r Cyfryngau