News Centre

Tîm Arlwyo y Cyngor yn enillwyr yng ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE)!

Postiwyd ar : 10 Medi 2021

Tîm Arlwyo y Cyngor yn enillwyr yng ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE)!
Mae gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yn cydnabod y gorau mewn gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig ac, yn dilyn rownd drylwyr o feirniadu, mae Tîm Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill lle cyntaf yn y categori Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo.

Roedd ein gwasanaeth arlwyo ar y rhestr fer yn y categori 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo' am ei ymateb gwych yn darparu Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod y pandemig.

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cau ar unwaith oherwydd y pandemig COVID-19. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu'r her o sut i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol am ddim i dros 6,243 o ddisgyblion.

Dangosodd tîm arlwyo'r awdurdod lleol sgiliau entrepreneuriaeth, creadigrwydd ac arweinyddiaeth gadarn gan weithredu gwasanaeth darparu prydau ysgol am ddim i'r cartref sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chyflenwyr lleol a dros 20 maes gwasanaeth yn yr awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, “Rwyf wrth fy modd bod ymdrechion ein Gwasanaeth Arlwyo wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau cenedlaethol mawreddog hyn. Maen nhw'n haeddu ennill y lle cyntaf, ac rydyn ni yng Nghyngor Caerffili mor falch o'n holl staff ni am eu gwaith a'u penderfyniad di-baid nhw drwy gydol y pandemig sydd wedi cael effaith mor gadarnhaol ar ein plant a'n pobl ifanc ni sy'n cael prydau ysgol am ddim."


Ymholiadau'r Cyfryngau