Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2021
Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Gwasanaethau Blynyddol y
News Centre
Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Gwasanaethau Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus!
Postiwyd ar : 01 Medi 2021
Mae Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydnabod y gorau o ran gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn dilyn rownd drwyadl o feirniadu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo
Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant
Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd,
Safonau Masnach a Rheoleiddio
Mae ein gwasanaeth arlwyo ar y rhestr fer yn y categori
'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo'
am ei ymateb gwych yn darparu Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod y pandemig.
Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cau ar unwaith oherwydd y pandemig COVID-19. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu'r her o sut i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol am ddim i dros 6,243 o ddisgyblion.
Dangosodd tîm arlwyo'r awdurdod lleol sgiliau entrepreneuriaeth, creadigrwydd ac arweinyddiaeth gadarn gan weithredu gwasanaeth darparu prydau ysgol am ddim i'r cartref sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chyflenwyr lleol a dros 20 maes gwasanaeth yn yr awdurdod lleol.
Yn y categori
'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant',
mae Cyngor Caerffili ar y rhestr fer oherwydd ymddygiad gwych y tîm tuag at adleoli yn ystod y pandemig.
Yn ystod cyfnod o her eithriadol, mae'r Tîm Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden yng Nghaerffili nid yn unig wedi parhau i ddarparu amrywiaeth eang a gwahanol o gyfleoedd chwaraeon a hamdden egnïol, ond hefyd wedi defnyddio ei adnoddau i gefnogi ymateb y Cyngor i COVID-19.
Mae esiamplau o'r math o waith a gafodd ei wneud a'i gefnogi gan staff chwaraeon a hamdden yn cynnwys:
Cefnogi darparu 1.5 miliwn o brydau ysgol am ddim i deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol
Cefnogi gweithredu a darparu'r system Tracio, Olrhain, Diogelu
Cefnogi ailagor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Fwrdeistref Sirol
Cefnogi cynllun 'Llinell Ofal' y Cyngor, gan ddarparu cymorth dros y ffon i rai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fwrdeistref Sirol
Nifer o staff yn gwirfoddoli i helpu gyda chynllun 'Gofalu am Gaerffili' y Cyngor, a wnaeth cefnogi trigolion mwyaf agored i niwed y Fwrdeistref Sirol gyda phethau fel siopa, casglu presgripsiynau a mynd ar neges yn gyffredinol
Cyd-weithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i sefydlu a darparu dros 72,000 o frechiadau fel rhan o Ganolfan Brechu Torfol y Fwrdeistref Sirol
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y
'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio'
ar gyfer ei Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau.
Cafodd y tîm Tracio, Olrhain a Diogelu ei greu yn ystod cyfnod eithriadol i ddarparu gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn y gymuned, gan gyflogi pobl leol i gefnogi'r gymuned yn ystod y pandemig.
Yng Nghymru, roedd y model darparu ar gyfer Olrhain Cysylltiadau yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig a chafodd ei ddarparu gan bob Awdurdod Lleol sydd wedi cydweithio gyda'i Fwrdd Iechyd rhanbarthol.
Bwriad y gwasanaeth oedd cydweithio i sefydlu gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau i helpu adfer cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau, mewn modd sy'n ddiogel ac sy'n amddiffyn y GIG a'n timau gofal cymdeithasol. Dechreuodd Caerffili ei wasanaeth gyda thîm o ddeugain o staff wedi'u hadleoli gan ddefnyddio model gweithio o bell.
Mae'r tîm bellach yn gweithredu gwasanaeth olrhain cysylltiadau soffistigedig sy'n perfformio'n dda, sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19 ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor cynhwysfawr i'n dinasyddion i'w cynorthwyo i gydymffurfio â gofynion hunan ynysu i helpu cadw ein cymunedau'n ddiogel.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Nghinio Gwobrau Elusen Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, er budd Parkinson's UK, ar ddydd Iau 9 Medi 2021 yn Birmingham.
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, "Rydw i wrth fy modd bod Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymuned, felly mae'n wych gweld gwaith caled y tîm yn cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y