News Centre

Gwaith Ffordd - St Cenydd Close a Road

Postiwyd ar : 24 Hyd 2023

Gwaith Ffordd - St Cenydd Close a Road
St Cenydd Road

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud gwaith lliniaru llifogydd hanfodol yn St Cenydd Close, Caerffili (yn dechrau 28 Hydref 2023).

Mae'r gwaith hwn yn cynnwys gosod unedau draenio cyrbau yn lle'r cyrbau presennol, ychydig o arwynebu a chysylltiad â'r brif system dŵr wyneb yn St Cenydd Road.

Bydd cau ffyrdd yn cael ei osod ar St Cenydd Close drwy gydol y gwaith gyda mynediad yn cael ei ddarparu ar gyfer preswylwyr lleol.

Bydd angen goleuadau traffig ar St Cenydd Road am gyfnod byr er mwyn caniatáu i'r system newydd gysylltu â'r system bresennol. Mae'r rhan hon o'r gwaith wedi'i chynllunio i gyd-fynd â chyfnod gwyliau'r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd yn ystod y gwaith lliniaru llifogydd hanfodol hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni Carl Bugler, Ffôn: 01495 235042 a e-bost: gweinpeirianneg@caerffili.gov.uk

 



Ymholiadau'r Cyfryngau