News Centre

Cynlluniau i wella ailgylchu wrth ymyl y ffordd wedi'u cytuno gan y Cabinet

Postiwyd ar : 19 Hyd 2023

Cynlluniau i wella ailgylchu wrth ymyl y ffordd wedi'u cytuno gan y Cabinet
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar genhadaeth i hybu cyfraddau ailgylchu, a'r wythnos hon, mae'r Cabinet wedi cytuno yn unfrydol ar gynlluniau i wella ansawdd ailgylchu wrth ymyl y ffordd a mynd i'r afael â halogi.
 
Mewn cyfarfod Cabinet, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 18 Hydref, cytunodd yr Aelodau ar weithredu proses addysg ac ymgysylltu gwell sy'n cynnwys llythyrau, ymweliadau â chartrefi ac, mewn nifer fach o achosion, yr opsiwn i gyflwyno hysbysiad cyfreithiol i droseddwyr sy'n halogi ailgylchu’n gyson. 
 
Mae dull presennol y Fwrdeistref Sirol o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn cynnwys bin olwynion brown ar gyfer yr holl ddeunyddiau ailgylchu sych cymysg. Er bod y dull hwn yn arwain at gasglu tunelli ailgylchu sych sylweddol, mae natur y cynwysyddion wedi'u darparu yn golygu bod lleiafrif o drigolion yn rhoi gwastraff amhriodol yn eu biniau ailgylchu.
 
Ar hyn o bryd mae lefelau uchel o halogi o fewn biniau ailgylchu brown y Fwrdeistref Sirol, ac nid oes modd i 20-23% o’r holl wastraff sy'n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd gael ei brosesu fel ailgylchu.
 
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed o 70% sydd ar ddod, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth sydd wedi'u cyhoeddi am y blynyddoedd sydd i ddod.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rwy’n hapus iawn gyda chanlyniad cyfarfod y Cabinet heddiw.
 
“Er ein bod ni'n gwerthfawrogi bod y rhan fwyaf o’n trigolion eisoes yn gweithio gyda ni i ailgylchu’n gywir bob wythnos, mae lleiafrif bach sy’n defnyddio dyluniad ein bin olwynion brown yn fwriadol i gael gwared ar ddeunyddiau nad ydyn nhw'n gallu cael eu hailgylchu.
 
“Nod y broses newydd hon yw sicrhau nad yw gwaith y trigolion hynny sy’n gwneud y peth iawn yn gyson yn mynd i wastraff.”


Ymholiadau'r Cyfryngau