News Centre

Siop Ailddefnyddio Penallta yn dathlu arbed dros 115,000kg o eitemau o sgipiau

Postiwyd ar : 31 Hyd 2023

Siop Ailddefnyddio Penallta yn dathlu arbed dros 115,000kg o eitemau o sgipiau
Siop Ailddefnyddio Penallta yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus o weithredu.
 
Agorodd Siop Ailddefnyddio Penallta mewn partneriaeth â’r elusen yn Ne Cymru, Wastesavers Charitable Trust Ltd. ym mis Hydref 2022, gan roi cyfle i eitemau a oedd yn mynd i’r Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi gael eu hailddefnyddio a’u gwerthu am brisiau bargen.
 
Ers agor, mae'r siop wedi llwyddo i ailgyfeirio 115,605kg o eitemau o'r ffrwd wastraff a'u rhoi nhw i ddwylo'r rhai sydd eu hangen.
 
A hithau’n cynnig eitemau ail-law am brisiau gwych, mae Siop Ailddefnyddio Penallta hefyd wedi treulio’r flwyddyn yn ymuno â phrosiectau ac elusennau lleol i gynnig prosiectau cymunedol fel eu partneriaeth â’r elusen iechyd meddwl Growing Space i redeg rhaglen ailgylchu sy’n cyflwyno sgiliau newydd, cymorth cyflogaeth  a chyfleoedd gwirfoddoli i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol, a'u partneriaeth ddiweddar gyda Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili i gynnig gwisg ysgol ail-law i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhad ac am ddim.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Fe wnaethon ni agor Siop Ailddefnyddio Penallta ym mis Hydref 2022, mewn partneriaeth â Wastesavers, fel y cam nesaf yn ein taith i ddod yn awdurdod carbon niwtral, ond hefyd oherwydd y buddion cymdeithasol ac economaidd i gymuned yn sgil ailddefnyddio.
 
“Mae’r buddion hynny wedi’u dangos yn glir gan Siop Ailddefnyddio Penallta eleni, ac allwn ni ddim aros i weld beth y gallan nhw ei gyflawni yn y dyfodol.
 
“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ran o’r prosiect hwn, o’r trigolion sy’n rhoi eu eitemau ail-law, siopwyr, ein tîm gwastraff ymroddedig a’r gwirfoddolwyr ymroddedig – rydych chi i gyd wedi chwarae rhan wrth gyrraedd y garreg filltir wych hon.”
 
Ychwanegodd Rheolwr Elusen Wastesavers, Alun Harries, “Mae’r Siop Ailddefnyddio ym Mhenallta wedi bod yn llwyddiant mawr yn ei 12 mis cyntaf, gan ddarparu buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i'r gymuned leol.
 
“Mae wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol gweithio gyda thîm Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sefydlu a rhedeg y siop a gweithio tuag at strategaeth ‘Mwy nag Ailgylchu’ Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n falch iawn y bydd y bartneriaeth yn cynnig gwasanaethau eraill ar gyfer Atgyweirio ac Ailddefnyddio yn y misoedd nesaf, megis llyfrgell cewynnau brethyn fel rhan o hyn.”
 
Mae Siop Ailddefnyddio Penallta ar Ystâd Ddiwydiannol Penallta, South Road, Hengoed CF82 7ST ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos, 9.30am-4.30pm.


Ymholiadau'r Cyfryngau