News Centre

Gorsaf radio leol yn rhoi cyfarpar i Ysgol Idris Davies 3–18

Postiwyd ar : 19 Hyd 2023

Gorsaf radio leol yn rhoi cyfarpar i Ysgol Idris Davies 3–18
Cafodd Ysbyty Ystrad FM ei lansio ym mis Chwefror 2021 er mwyn helpu lleihau teimladau o unigrwydd ac ynysigrwydd wrth aros yn yr ysbyty. Nod radio'r ysbyty yw lleddfu gorbryder a rhoi ymdeimlad o berthyn i gleifion.
 
Mae Ysbyty Ystrad FM ar gael am ddim a gall cleifion fanteisio arni – mae llechi digidol ar gael i'w defnyddio ar wardiau neu gallwch chi ddefnyddio eich dyfais bersonol eich hun. Mae'r orsaf radio hefyd ar gael y tu allan i'r ysbyty.
 
Mae'r prosiect wedi creu partneriaeth waith gyda Phrifysgol De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymunedau am Waith ac ysgolion lleol. Mae rhanddeilliaid allweddol yn darparu cynnwys ar gyfer yr orsaf ac yn parhau i gynorthwyo datblygiad Ysbyty Ystrad FM.
 
Yn ogystal â darparu buddion i gleifion, mae'r prosiect cyffrous hwn, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, hefyd wedi rhoi cyfleoedd newydd i blant Ysgol Idris Davies 3–18.
 
Mae Ysbyty Ystrad FM yn rhoi amrywiaeth o gyfarpar radio i'r ysgol, gan gynnwys clustffonau, meicroffonau a thechnoleg cynhyrchu podlediadau.
 
Meddai Steven Davies, sylfaenydd Ysbyty Ystrad FM ac Arweinydd y Prosiect, “Mae'n bleser gennym ni roi'r cyfarpar radio hyn i Ysgol Idris Davies ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar brosiectau yn y dyfodol.
 
“Mae Ysbyty Ystrad FM yn parhau i fynd o nerth i nerth. Rydw i mor falch bod y prosiect o fudd i gynifer o wahanol bobl, nid yn unig ein gwrandawyr ond hefyd myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru ac ysgolion lleol megis Idris Davies.”
 
Gallwch chi wrando ar Ysbyty Ystrad FM yn itsyyfm.com. Gwrandewch ar nifer o sioeau cerddoriaeth, cyfweliadau, crynodebau o'r newyddion neu'r sioe fendigedig ‘Tales around the Teapot’ sy'n cael ei chyflwyno gan grŵp o fenywod â straeon newydd bob wythnos.


Ymholiadau'r Cyfryngau