News Centre

Buddsoddi yn eich cymuned CHI

Postiwyd ar : 26 Hyd 2023

Buddsoddi yn eich cymuned CHI
Mae strategaeth fawr, sydd â'r nod o annog rhagor o bobl ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i fod yn fwy egnïol, wedi sicrhau manteision sylweddol yn ei 5 mlynedd gyntaf.
 
Mae Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029 Cyngor Caerffili yn gynllun 10 mlynedd a gafodd ei gymeradwyo yn ôl yn 2018.
 
Ers ei rhoi ar waith, mae’r strategaeth wedi sicrhau bron i £3 miliwn o fuddsoddiad mewn amrywiaeth wefreiddiol o gyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys 5 cae pêl-droed a rygbi 3G defnydd deuol newydd, canolfan athletau, canolfan hoci, ac adnewyddu ac ailddatblygu ystafelloedd ffitrwydd mewn 2 ganolfan hamdden.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Hamdden, “Mae’n amlwg bod ein strategaeth yn gweithio ac eisoes wedi sicrhau llawer o fanteision cadarnhaol i gymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol gyfan.
 
“Ein gweledigaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol yw annog ffyrdd iach o fyw a chynorthwyo ein trigolion o bob oed a gallu i fod yn fwy egnïol, yn amlach. Yn ogystal â’r hyn sydd eisoes wedi’i fuddsoddi, mae gennym ni gynlluniau cyffrous ar gyfer buddsoddiad hyd yn oed yn fwy sylweddol yn y dyfodol, ac rwy’n siŵr y bydd y gymuned gyfan yn ei groesawu ac yn edrych ymlaen ato.
 
“Hefyd, rydw i am ddiolch i’r holl staff ymroddedig sy’n allweddol wrth helpu gweithredu a chynorthwyo’r cyfleusterau cymunedol amhrisiadwy hyn,” ychwanegodd.
 
Mae rhywfaint o’r buddsoddiad sy’n deillio o Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor hyd yma yn cynnwys:
  • £390,000 - Canolfan hoci newydd yng Nghanolfan Hamdden Sue Noake, Ystrad Mynach, a chae 3G newydd yn Ysgol Idris Davies.
  • £315,000 - Cae 3G newydd, ffensys, goleuadau ac ystafelloedd newid yng Nghanolfan Hamdden Bedwas.
  • £755,000 – Canolfan athletau newydd yn Oakdale ger Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd.
  • £110,000 – Cae 3G newydd yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant.
  • £90,000 – Cae 3G newydd yn Ysgol Lewis Pengam.
  • £90,000 – Cae 3G newydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
  • £73,000 - menter Cwrt Cruyff Aaron Ramsey yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod.
  • £15,445 - rhaglen ail-wynebu cwrt pêl-law Nelson.
  • £875,000 wedi'i fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn (ystafell ffitrwydd, stiwdio ddawns a beicio, offer pwll ac adnewyddu ystafell newid).
  • £100,000 i adnewyddu'r ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu
  • Yn dod yn fuan! Canolfan Hamdden a Lles newydd gwerth £33.6 miliwn yng Nghaerffili.
  • Yn dod yn fuan! Canolfan newydd ar gyfer Dysgwyr Agored i Niwed ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith, yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon cymunedol newydd.
  • Yn dod yn fuan! Uwchraddio cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn a chae 3G bach yn Ysgol Gynradd Abercarn.
 
Mae’r strategaeth hefyd yn cwmpasu amrywiaeth o fentrau eraill sydd wedi helpu gwella lles cymunedol megis cynlluniau atgyfeirio cleifion, Ysgolion Bro, prosiectau wedi’u targedu Teuluoedd yn Gyntaf a rhaglenni cerdded iach ac ati.
 
Bydd adroddiad ar y cynnydd o ran cyflawni Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-2029 y Cyngor yn cael ei ystyried mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu Tai a’r Amgylchedd ar 31 Hydref. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=634&MId=14228&LLL=1.


Ymholiadau'r Cyfryngau