Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2023
Cymeradwyo datblygiadau tai blaenllaw
News Centre
Cymeradwyo datblygiadau tai blaenllaw
Postiwyd ar : 19 Hyd 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau terfynol unfrydol ar gyfer dau ddatblygiad tai blaenllaw yn Oakdale a Rhisga.
Mae’r datblygiadau’n golygu y bydd safleoedd segur yn hen Ysgol Gyfun Oakdale a chartref gofal Tŷ Darran, Rhisga yn cael eu trawsnewid fel rhan o raglen adeiladu tai uchelgeisiol y Cyngor.
Cymeradwyodd aelodau’r Cabinet gynigion i dîm Cartrefi Caerffili’r Cyngor ymrwymo i Gytundeb Cyflawni, ar gyfer datblygu’r ddau safle, gyda’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon. Fe wnaeth y Cabinet hefyd roi ei gymorth i lunio cynllun gwerth cymdeithasol; gyda'r nod o sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i Fwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd Oakdale yn elwa ar ddatblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw, y cyntaf o'i fath ar gyfer Cyngor Caerffili, sy'n cynnwys 92 o gartrefi newydd. Fe wnaeth aelodau’r Cabinet hefyd gymeradwyo cynllun byw bywyd hŷn ar y safle a fydd, os yw'n cael ei gymeradwyo, yn adleoli preswylwyr o gynllun tai lloches Tŷ Melin y Cyngor yng Nghroespenmaen.
Bydd datblygiad Rhisga yn cynnwys cynllun byw bywyd hŷn, gyda 45 o unedau arloesol. Ar ôl ei gwblhau, bydd y datblygiad newydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli preswylwyr presennol o gynlluniau tai lloches yn yr ardal sy'n mynd i gau.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Dyma garreg filltir arwyddocaol o ran cyflawni ein hymrwymiad i adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf.
“Bydd datblygiadau Oakdale a Rhisga yn wahanol i unrhyw beth mae’r Cyngor wedi ei gyflawni o’r blaen; cyfuno arloesedd â dylunio o safon uchel i sicrhau bod costau tanwydd ac allyriadau carbon yn cael eu cadw i’r lefelau isaf posibl, gan greu cymunedau iach cynaliadwy a chwrdd ag angen lleol cynyddol am dai.
“Mae gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud drwy ein rhaglen adeiladu tai yn flaenoriaeth allweddol arall i ni a bydd y cynllun gwerth cymdeithasol yn helpu i sicrhau bod buddion ehangach yn cael eu darparu i’n cymunedau.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y